Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg gall problemau gyda’r bledren arwain at gathetreiddio pobl am amryw o resymau. Mewn adroddiad crwner yn ddiweddar ar farwolaeth mewn cartref nyrsio yn fy etholaeth, yn y Cymer, nodai naratif y crwner nad oedd y staff wedi cael hyfforddiant digonol, gan olygu bod unigolyn a oedd wedi eu cathetreiddio’n hirdymor wedi dioddef o ganlyniad i hynny, a bu farw’r unigolyn hwnnw. A wnewch chi sicrhau bod y byrddau iechyd yn gwbl ymwybodol o’r hyfforddiant sydd angen ei ddarparu er mwyn ymdrin â phreswylwyr a chleifion sy’n cael eu cathetreiddio am gyfnodau hir, fel nad ydynt yn wynebu sefyllfa lle y gallant gael heintiau a septisemia o ganlyniad i hynny, sy’n arwain at farwolaeth yn y pen draw?