<p>Gwasanaethau i Bobl â Phroblemau sy’n Effeithio ar y Bledren a’r Coluddyn</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:22, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn, ac am godi mater arferion diofal mewn cyfleusterau preswyl, nid yn unig mewn ysbytai neu ofal yn y cartref. A dweud y gwir, mae yna her yn hyn o beth sy’n ymwneud â phroses nad yw’n anarferol, ac sy’n eithaf syml mewn gwirionedd; mae’r her yn ymwneud â’r ffordd yr ymdrinnir â chathetrau sydd wedi blocio a’r gofal priodol. Felly, byddaf yn sicr o fynd ar drywydd y mater a byddaf yn edrych eto ar sut y gallwn geisio sicrhau, wrth gomisiynu gofal yn y sector gofal cymdeithasol, ein bod yn deall beth rydym yn ei gomisiynu, ansawdd y gofal a ddarperir, ond yn ogystal â hynny, fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r hyn sydd, yn ei hanfod, yn elfen sylfaenol o ofal a thriniaeth i bobl ym mha ran bynnag o’r system gofal iechyd y maent.