<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:33, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rydych newydd ddisgrifio beth yr hoffech ei weld yn digwydd ymhen amser, ac rydych yn aros am adroddiadau; byddwch yn ystyried yr adroddiadau. Mae hyn yn digwydd yn awr, pobl yn aros am dros 100 o wythnosau, ac roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â beth y gellid ei wneud yn awr er mwyn lleihau’r amseroedd aros i bobl sydd wedi bod yn aros mewn poen, gan arwain at ragor o broblemau gyda’u hiechyd. Rydych yn honni’n aml fod amseroedd aros yn gwella. Mae rhai ohonynt yn gwella. O gymharu â 2014 yn hytrach na 2011, mae’r duedd hirdymor yn eithaf amlwg o ran amseroedd aros yn mynd yn hwy ac yn hwy. O bryd i’w gilydd, rydych yn cyhoeddi arian ar gyfer mentrau i fynd i’r afael â meysydd problemus, ond mae methiannau o ran cynllunio’r gweithlu yn tanseilio eu cynaliadwyedd. Flwyddyn i fis Awst diwethaf, fe fyddwch yn cofio lansio gwasanaeth thrombectomi yng Nghaerdydd i drin cleifion strôc—gofal o’r ansawdd uchaf. Gohiriwyd y gwasanaeth ym mis Mai eleni o ganlyniad i broblemau staffio, sy’n golygu na fydd 500 o gleifion y flwyddyn yn cael y driniaeth orau sydd ar gael bellach. Pam fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn gallu gwneud hyn yn iawn, ond nid GIG Cymru o dan arweiniad y Blaid Lafur?