<p>Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am fy annog i feddwl yn ddiwygiol. Rwy’n cydnabod y pwyntiau a godwyd, oherwydd cânt eu lletya gan Felindre ac mae’r trefniadau lletya fel y maent am fy mod yn credu y byddai’n her i geisio eu sefydlu fel corff cyfan gwbl ar wahân o’r GIG, ond mae gennyf ddiddordeb, nid yn unig mewn trafodaeth, ond mewn dod o hyd i ateb o ran sut y gallwn greu mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei wneud a mwy o oruchwyliaeth lywodraethol o’r hyn y maent yn ei wneud, boed hynny yn Felindre ai peidio. Felly, mae gennyf feddwl cwbl agored ynglŷn â’r hyn y byddai gan Swyddfa Archwilio Cymru i’w ddweud, gan fy mod yn credu ei fod yn rhywbeth y byddai’n rhaid i ni ei ddatrys wrth symud ymlaen i wneud yn siŵr fod mwy o ymwybyddiaeth a chraffu, a chredaf fod hynny’n hollol iawn a phriodol.