<p>Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:47, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, nododd yr adolygiad seneddol diweddar o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru fod y rhan fwyaf o’r 534 o staff Gwasanaeth Gwybodeg y GIG ar hyn o bryd yn ymwneud â chynnal gwasanaethau a seilwaith digidol yn hytrach na datblygu systemau newydd. Nawr, o ystyried y pryderon eang—ac rydym wedi ei drafod yma—ynglŷn â data agored, casglu data a rhannu gwybodaeth, er enghraifft gyda nodiadau cleifion rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn wir, rhwng ysbytai yn yr un bwrdd iechyd hyd yn oed, pa ymrwymiad y gallwch ei roi y byddwch yn ystyried adolygu er mwyn sicrhau allbwn mwy rhagweithiol ac arloesol o’r gwasanaeth hwn?