<p>Technoleg Gynorthwyol Ddatblygol mewn Gofal Cymdeithasol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:57, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rydych newydd grybwyll Bae’r Gorllewin, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod bargen ddinesig bae Abertawe mewn sefyllfa dda iawn i feithrin cwmnïau sydd am ddatblygu’r ymyriadau technoleg hyn mewn gwirionedd ar gyfer ailalluogi a gofal cymdeithasol arall, yn enwedig yn y cartref. Nodwyd y cyfle eisoes. Tybed felly pa sgyrsiau y gallech fod wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i sicrhau bod unrhyw gwmnïau newydd sy’n dangos diddordeb yn y maes gweithgaredd hwn yn edrych yn ffafriol ar ardal bargen ddinesig bae Abertawe, yn hytrach na mannau eraill. Rwy’n credu y byddai o gysur mawr i bawb ohonom wybod y bydd hwnnw’n gyfle i staff a’r economi yn ogystal â chleifion. Diolch.