Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n sicr wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynglŷn â’r ffaith ein bod wedi nodi gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld yn ‘Ffyniant i Bawb’ ei fod yn un o’n themâu trawsbynciol allweddol ochr yn ochr â thai, sydd hefyd â chysylltiad â’r math hwn o faes hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn cael y drafodaeth benodol honno ar botensial y fargen ddinesig. Credaf fod hwnnw’n gynnig cyffrous gyda photensial cyffrous yno hefyd, felly rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y gallem weithio i gael cyfarfod ar y cyd yn ei gylch.