<p>Chwaraeon Cyswllt</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:59, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn effro iawn i bwysigrwydd cadw plant yn ddiogel yn yr ysgol ym mhob modd, ond rydym yn rhoi pwys arbennig ar ddiogelwch chwaraeon ysgol. Mae’n bwysig rhoi camau cymesur ar waith i greu amgylcheddau diogel i blant allu cymryd rhan mewn chwaraeon. Gall anafiadau ddigwydd mewn unrhyw weithgaredd hamdden wrth gwrs, er bod rhai chwaraeon, yn amlwg, yn cynnwys mwy o risg nag eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar gyfergyd ac anafiadau i’r ymennydd i gynorthwyo pobl sy’n ymwneud â chwaraeon ysgol a chymuned hyd at 19 oed er mwyn lleihau’r posibilrwydd o anaf. Cynhyrchwyd y canllawiau hynny ar y cyd ac mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid gan gynnwys y GIG, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Felly, mae’n bwysig mabwysiadu ymagwedd gymesur tuag at y mater, gan wneud chwaraeon mor ddiogel ag y gallwn ond gan gydnabod hefyd y manteision enfawr y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu rhoi i unigolion.