Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 4 Hydref 2017.
Gweinidog, diolch i chi am eich atebion hyd yma ar hyn. Rwy’n derbyn y pwynt fod yna gorff o dystiolaeth ar gael sy’n werth ei archwilio, ond rwy’n cytuno â’r teimladau a fynegoch mai camau cymesur yw’r hyn sydd ei angen. Fel rhywun sy’n hoffi meddwl ei fod wedi elwa o chwaraeon cyswllt dros y blynyddoedd ac sydd â phlant a fu’n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon hefyd, rwy’n gweld y manteision ehangach. Ond mae’n creu rhwymedigaeth arnom ni fel gwleidyddion a chi fel Llywodraeth yn wir, i weithio gyda’r cyrff rheoli chwaraeon sy’n cael eu nodi’n chwaraeon cyswllt i wneud yn siŵr fod y cyfleusterau diweddaraf ar gael lle y caiff y chwaraeon hynny eu chwarae. Hoffwn wybod pa ryngweithio a wnewch gyda’r cyrff rheoli—gan ein bod yn ei weld yn Stadiwm y Mileniwm, wyddoch chi, meddygon ar ymyl y cae os oes rhywun yn cael cyfergyd ac yn y blaen—pa gyfleusterau sydd ar gael, ar lefel fwy cymunedol, i wneud yn siŵr nad oes neb yn agored i risg ddiangen a bod cydymffurfio’n digwydd â’r camau cymesur y soniwch amdanynt ar lefel gymunedol, lle y bydd y rhan fwyaf o bobl yn chwarae’r chwaraeon cyswllt hyn?