1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu argaeledd tai yng Nghymru? (OAQ51172)
Rydym ni’n buddsoddi'n sylweddol ym mhob deiliadaeth tai, a adlewyrchir yn ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni’n darparu cymorth ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol a chyllido i gael cwmnïau bach i adeiladu eto, yn ogystal â chynlluniau newydd i wneud perchnogaeth cartref yn haws a chymorth ar gyfer arloesi.
Diolchaf iddo am yr ateb yna. Ddoe, ymunais â'r Gweinidog dros sgiliau yn Hale Construction yng Nghastell-nedd yn fy etholaeth i i drafod tai modiwlaidd. Ceir diddordeb cynyddol mewn adeiladu oddi ar y safle i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru. Mae'n dod â manteision cynaliadwyedd, gydag effeithlonrwydd ynni, a chyflymder adeiladu. Ceir diddordeb hefyd gan gwmnïau tramor yn enwedig mewn mewnforio cydrannau ar gyfer adeiladu yn y DU. Pe byddai'r sector yn cael ei ddominyddu gan hynny, byddai hynny'n cwmpasu cost cynaliadwyedd ac, yn wir, cost y cyfle i greu swyddi yng Nghymru ar gyfer y sector newydd hwn. Ceir heriau polisi i dwf y sector, gan gynnwys cynllunio, y gadwyn gyflenwi, cyllid a chymorth i BBaChau, sy'n ffurfio mwyafrif cyfredol y sector o ran gweithgynhyrchu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygu a mynd i'r afael â'r rhwystrau polisi i dwf y sector, os na fyddwn yn ei adeiladu yng Nghymru, y bydd eraill yn ei wneud?
Wel, rwyf wrth fy modd bod 35 o gynlluniau wedi gwneud cais am gymorth o rownd gyntaf y rhaglen dai arloesol. Maen nhw wedi eu hasesu gan banel annibynnol, a byddwn yn cyhoeddi'r rhai y byddwn yn eu cynorthwyo cyn diwedd y mis hwn.
Brif Weinidog, yn gynharach eleni, fe godais i waith Hafan Las, grŵp lleol yn sir Benfro sydd yn hybu cymunedau cyd-dai, gyda chi mewn sesiwn o gwestiynau. Byddai cynlluniau fel hyn yn golygu tai effeithlon fforddiadwy i bobl leol gydag o leiaf traean o’r trigolion dros 50 oed er mwyn hybu pontio’r cenedlaethau. Yn eich ymateb nôl ym mis Mai, dywedoch chi fod hyn yn rhywbeth y byddech chi a’ch swyddogion â diddordeb ynddo. Felly, yn sgil eich sylwadau blaenorol, a allech chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi projectau fel hyn yng ngorllewin Cymru?
We do give revenue income to the Wales Co-operative Centre in order to support housing co-operatives, and this is something that is being done across the whole of Wales. We wish to promote alternative ways of constructing houses, including alternative ways of building houses by co-operative groups.
Prif Weinidog, ddoe, roeddwn yn falch o allu mynd allan a bod yn werthwr 'The Big Issue', ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, gan gymryd rhan yn y broses honno fel ffordd o weld sut mae pobl sydd, o bosib, rhwng tai, sy'n cael trafferth gyda llawer o bethau yn eu bywydau, yn defnyddio 'The Big Issue' i’w werthu a pheidio â chardota. Yr hyn a ddarganfyddais oedd ei bod yn gryn agoriad llygaid o ran pa mor anweledig roeddwn i’n teimlo, a bod yn blaen, i lawer o bobl a oedd yn byw eu bywydau beunyddiol ac nad oeddent wir yn sylweddoli bod gwerthu 'The Big Issue' yn rhan o fenter gymdeithasol a’i fod yn mynd i'w cynorthwyo a'u helpu i gael allan o'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allem ni annog, ac a allech chi annog, pobl i brynu 'The Big Issue' ac a allech chi ddweud wrthym sut yr ydych chi'n helpu pobl yn y sefyllfaoedd hynny i mewn i swyddi, fel eu bod yn teimlo eu bod wedi eu grymuso i fyw eu bywydau beunyddiol mewn ffordd lwyddiannus.
Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda 'The Big Issue' er mwyn ei hyrwyddo. Gwn, fel grŵp, ein bod ni’n hysbysebu ac yn talu am hynny yn 'The Big Issue', fel yr wyf yn siŵr y mae grwpiau eraill yn ei wneud hefyd. Yn sicr, byddai gen i ddiddordeb mewn helpu ymgyrch i annog pobl i brynu 'The Big Issue'. O ran y gwerthwyr eu hunain, mae eu hamgylchiadau'n tueddu i fod yn wahanol dros ben, ac felly, iddyn nhw, yr hyn sydd ei angen yw pecyn wedi'i deilwra i'w helpu. Ond mae'r union ffaith, wrth gwrs, eu bod nhw’n gwerthu 'The Big Issue' yn hytrach na chardota yn arwydd eu bod nhw eisiau dringo’r ysgol i wella eu bywydau a rhoi mwy o arian yn eu pocedi fel y gallant fwy’n fwy cyfforddus. Byddai'n ddefnyddiol gweithio gyda 'The Big Issue' er mwyn deall beth arall y gellid ei wneud i helpu'r bobl hynny.
A gaf i wahodd y Prif Weinidog i ymhelaethu ychydig efallai ar yr ateb a roddodd i Paul yn y fan yna ynghylch yr enghraifft Sir Benfro? Oherwydd bu cefnogaeth dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn i’r model ymddiriedolaeth tir cymunedol yng Nghymru, a bu llawer o enghreifftiau da iawn, ond cymharol fach, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ond mewn trefi hefyd erbyn hyn. Ond os edrychwch chi, er enghraifft, ar fodel ymddiriedolaeth tir cymunedol Burlington yn Vermont—rwy'n credu bod gŵr penodol o’r enw Bernie Sanders yn rhywbeth i'w wneud â'i sefydlu ym 1983—mae ganddi bellach o fewn yr ymddiriedolaeth tir cymunedol honno dros 2,000 o dai a gwarchodaeth o fannau agored hefyd sy’n mynd gydag ef. Mae'n fodel dielw, pobl leol sydd yn berchen arno ac mae'n darparu cartrefi fforddiadwy i’w prynu, nid i'w rhentu’n unig, ac maen nhw’n rhannu'r asedau pan fyddant yn cael eu rhyddhau, ond mae'n arafu’r cynnydd. Nawr, roeddwn i’n meddwl tybed, gydag awdurdodau lleol, gyda'r consortia rhanbarthol sydd gennym ni, gyda'r cytundebau dinas ac yn y blaen, a yw e’n—? A fyddai'n mentro meddwl bod lle yma ar gyfer rhywfaint o feddwl creadigol, yn y cynlluniau tai fforddiadwy mawr sydd gennym ni, ar sut y gall ymddiriedolaethau tir cymunedol lenwi rhywfaint o'r bwlch hwnnw?
Byddwn, mi fyddwn, a mantais ymddiriedolaeth tir cymunedol, wrth gwrs, yw bod y tir yn eiddo cymunedol neu i ymddiriedolaeth. Mae'r tai yn cael eu prydlesu gan yr ymddiriedolaeth honno, ac felly mae yna gyfyngiad o ran y pris y gellir gwerthu'r tai hynny amdano. Gall pobl wneud ychydig o arian o’r tai y maen nhw’n eu gwerthu, ond mae'r prisiau'n cael eu cadw'n ddigon isel i fod yn fforddiadwy—felly, model hynod bwysig yr ydym ni eisiau ei hyrwyddo. Sut ydym ni'n gwneud hyn? Wel, er enghraifft, yn y Llywodraeth ddiwethaf, darparwyd bron i £2 filiwn o gyllid cyfalaf gennym i gefnogi datblygiad tri phrosiect arbrofol tai cydweithredol yng Nghaerdydd, yng Nghasnewydd ac yng Nghaerfyrddin—87 o gartrefi newydd. Rydym ni eisiau gweld mwy o dai cydweithredol, gan gynnwys y model CLT, a byddem yn sicr yn croesawu mwy o gynigion gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o ran sut y gellir eu darparu.