Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 10 Hydref 2017.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno ag egwyddorion cyffredinol eich cynllun chi, sy'n cynnwys gwella profiad y claf trwy gadw costau gofal ar lefel resymol. Ac yn hyn o beth, mae'r gwelliant 1000 o Fywydau i helpu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a sicrhau profiad gwell i gleifion mewn arbenigeddau gofal wedi’i gynllunio i’w groesawu.
Yn wir, mae rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 a gynhelir gan Ysgol Fusnes Caerdydd wedi rhoi'r dewisiadau yng Nghymru yn gliriach yn ei hadroddiad diweddar, pan ddywed, dan rai rhagdybiaethau, y gallai 56 y cant o'r gyllideb fynd i mewn i GIG Cymru erbyn 2021 a gallai'r ganran fod hyd yn oed yn uwch yn y blynyddoedd dilynol. Felly, gan hynny, mae gennym broblem yma lle’r ydym ni'n rhoi mwy o arian i mewn ac nid ydym yn cyflawni ein targedau. Felly tybed a allech chi wneud sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet?
Mae'r term 'profiad y claf' yn cwmpasu nifer o feysydd sy'n cynnwys canlyniadau i gleifion ac amseroedd aros i gleifion. Fel y dywedasoch mewn atebion i'm cwestiynau fis Ionawr diwethaf, mae angen i ni gydbwyso'r gostyngiad mewn amserau aros ag ansawdd yr ymyriadau a'r canlyniadau i gleifion yng Nghymru. Felly, sut ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwriadu gwneud hyn?
Croesawaf y newyddion yn eich datganiad ynghylch ailgynllunio llwybr canser y prostad ar draws Cymru, ar ôl clywed gan lawer o etholwyr yn fy rhanbarth i am anawsterau triniaethau blaenorol cyn y llwybr. Yn yr un modd, mae croeso i gyflwyno clinigau un stop, a grybwyllir yn eich datganiad, a bwriad y rhaglen hefyd i ddatblygu’r mesurau profiad yr adroddir amdanynt gan y claf—PREM—a’r mesurau canlyniad yr adroddir amdanynt gan y claf—PROM—i gofnodi a dadansoddi profiad cleifion o wasanaethau ar hyd llwybrau etholedig. Fodd bynnag, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y bydd cynghorau iechyd cymuned yn ymwneud â chasglu profiadau cleifion. Os nad ydynt yn cymryd rhan ddigonol, yna efallai y byddwn mewn perygl o gael dau gofnod o brofiadau cleifion, un yn yr adroddiadau PREM a PROM a'r llall trwy gynghorau iechyd cymuned. A fyddai'n llawer gwell pe gellid dwyn ynghyd brofiadau cleifion a gofnodwyd trwy bob un o'r llwybrau hyn er mwyn cael y darlun mwyaf amlwg o brofiadau cleifion?
Rwy'n croesawu dull holistaidd o ofalu am gleifion ac addasu ffordd o fyw, a byddwn yn gofyn hyn: pa gyngor ac ymchwil gyfredol gan grwpiau eraill fydd yn cael eu hymgorffori yn y dull holistaidd ac addasiadau ffordd o fyw?
Mae dogfennau blaenorol yn ymwneud â'r rhaglen ofal yn sôn mai un o'r nodau yw lleihau amrywiad ledled Cymru. Er enghraifft, gall nod o'r fath arwain at leihau nifer yr apwyntiadau dilynol a gynigir yn dilyn llawdriniaeth, gan y gall hyn fod yn arfer derbyniol mewn gwasanaethau iechyd eraill y DU.
Er fy mod yn gefnogol yn fras i'r nod cyffredinol o sicrhau bod costau GIG Cymru yn cael eu cadw ar lefelau rhesymol, rhaid imi bwysleisio, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pob achos yn wahanol. Weithiau, mae amrywiad mewn gwasanaethau ac apwyntiadau i drin yr un cyflyrau neu gyflyrau tebyg, mewn ardaloedd gwahanol hefyd, yn hollol angenrheidiol, felly mae angen digon o hyblygrwydd yn y rhaglen.
Mae'r dystiolaeth yn eich datganiad o’r 9 y cant o bobl nad ydynt yn mynd i apwyntiadau dilynol yn peri anesmwythyd. Ond mae pob achos yn wahanol, ac ni ddylem geisio lleihau apwyntiadau dilynol yn gyffredinol os nad yw ymarfer o'r fath yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau posib i’r claf. Croesewir y dystiolaeth y mae eich datganiad yn ei ddyfynnu gan fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, sydd â'r potensial i leihau apwyntiadau dianghenraid ledled Cymru, ar yr amod y gallwn sicrhau bod apwyntiadau o'r fath yn wirioneddol ddiangen—hynny yw, eu bod yn achosion cyffredinol heb gymhlethdodau neu eithriadau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ar yr hyn sy'n gyfystyr ag amgylchiadau eithriadol mewn achos penodol? Ac, ar ben hynny, pan ystyrir bod achos yn eithriadol, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ynghylch pa adnoddau pellach fyddai'n cael eu hystyried yn ganiataol neu'n arfer gorau?
Nodaf fod eich datganiad yn dweud y bu gostyngiad yn nifer y cleifion yr amheuir sydd â chanser nad ydynt yn rhai brys. Fodd bynnag, rwyf wedi sôn yn y gorffennol, pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, a bod y diagnosis yn fater brys iawn iddyn nhw, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau i gleifion. A phan fo rhywun yn cael gwybod bod posibilrwydd bod ganddyn nhw ganser, mae angen inni drin y rhain i gyd ar frys, oherwydd i'r person hwnnw, mae'r gair 'canser' yn golygu bod rhywbeth yn digwydd sydd angen triniaeth ar frys.
Yn olaf, deallaf fod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bedwar arbenigedd llawfeddygol: offthalmoleg; y glust, y trwyn a’r gwddf; orthopedeg; a niwroleg. Rwyf wedi darllen yn eich datganiad ers hynny fod yna fwy ar y gweill. Felly, nid wyf eisiau rhedeg cyn gallu cerdded, ond hoffwn ofyn a oes unrhyw gynlluniau hirdymor i’r rhaglen fod yn berthnasol i arbenigeddau llawfeddygol eraill neu feysydd eraill yn GIG Cymru ac, os felly, pa ddulliau fyddai'n cael eu defnyddio i werthuso effeithiolrwydd y rhaglen ar y pedwar arbenigedd llawfeddygol cychwynnol. Diolch yn fawr iawn.