<p>System Gyfiawnder Unigryw</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:45, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Tybed a fuasai’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn yr honiad hwn fod ystyried datganoli cyfiawnder ac awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol fel cymhwysedd cwbl ar wahân yn wahaniaeth ffug mewn gwirionedd, a’i bod yn well ei ystyried fel rhan o gontinwwm lle y mae’r lle hwn yn deddfu, ac er mwyn iddynt gael eu gweithredu a’u gorfodi’n briodol, mae’n fater o gontinwwm rhwng pasio’r gyfraith a gorfodi’r gyfraith. Felly, mae’r diffyg datganoli cyfiawnder ac awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol mewn gwirionedd yn gweithredu fel cyfyngiad ar ddatganoli pwerau eraill. A fuasai’n derbyn yr honiad hwnnw?