Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Hydref 2017.
Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, a hefyd yn yr adroddiad a’i dilynodd. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu at ein hymchwiliad. Yn amlwg, y bws yw’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwn fwyaf, ond dyma’r ffurf fwyaf cynhwysol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dyma’r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gallu cyrraedd pob un o’n cymunedau, boed yn drefol neu’n wledig, ac yn enwedig rhannau gogleddol o Gymoedd y de lle y bydd gwasanaethau bws, hyd yn oed ar ôl i’r metro gyrraedd, yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth honno. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu mynd i’r afael â thagfeydd bws a chael y cynnig yn iawn.
Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, rhoesoch y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â theithio rhatach ar fysiau a dywedasoch wrthym mai un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru yw:
cynyddu nifer y bobl o bob oed sy’n defnyddio bysiau ar gyfer eu taith ddyddiol i’r gwaith, ar gyfer addysg, mynediad at wasanaethau iechyd ac ar gyfer dibenion hamdden.
Felly, i wneud hyn, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â thagfeydd, oherwydd eu natur gylchol gynhenid, sy’n hollbwysig: mae tagfeydd bysiau’n atal pobl rhag teithio ar y bws, yn eu harwain yn ôl i’w ceir; mae hyn wedyn yn achosi mwy o dagfeydd, sydd, yn ei dro, yn gwneud bysiau’n arafach, ac mae’r broblem yn gwaethygu unwaith eto.
Mae’r ffigurau a ddyfynnir yn adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu siâp yr her sydd o’n blaenau. Mae nifer y gwasanaethau bws lleol wedi haneru bron yn y 10 mlynedd hyd at 2015. Mae nifer teithiau teithwyr hefyd wedi gostwng, ond er gwaethaf hyn, fel y dywedais ar y dechrau, y bws yw’r ffurf fwyaf hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r un a gaiff ei defnyddio fwyaf o hyd. Yn 2015-16, gwnaed dros 100 miliwn o deithiau gan deithwyr bysiau, ac mae hynny oddeutu pum gwaith y nifer cymharol o deithiau trên. Yn yr 20 mlynedd cyn 2015, mae teithiau bws wedi arafu ddwy filltir yr awr ar gyfartaledd: gostyngiad o 13 y cant mewn cyflymder sy’n golygu bod angen capasiti ychwanegol er mwyn cynnal y gwasanaeth yn unig. Dyma un symptom clir o effaith tagfeydd.
Yn fwy cyffredinol, mae tagfeydd yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd ac ar iechyd ein cymunedau hefyd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y briff a ddarparwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, sy’n cynnwys ffigurau llwm i gefnogi hynny. Gellir cysylltu 1,300 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yng Nghymru â llygredd aer. Mae plant, yn benodol, sy’n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fod ag ysgyfaint heb ddatblygu’n iawn a thuedd uwch i ddal heintiau.
Mae hefyd yn effeithio ar ein heconomi, ac ni allwn anwybyddu’r dimensiwn cyfiawnder cymdeithasol ychwaith. Roedd ychydig o dan hanner yr holl deithiau bws y llynedd yn docynnau teithio rhatach—cyfran gynyddol mewn cyferbyniad â’r patrwm cyffredinol o ddirywiad yn y defnydd. Ar gyfer yr aelwydydd nad oes ganddynt gar, mae bysiau’n achubiaeth yn wir. Fy awdurdod lleol fy hun, Rhondda Cynon Taf, yw’r pumed uchaf o ran nifer yr aelwydydd heb gar at eu defnydd—ychydig dros 27 y cant. Bydd llawer o’r bobl hynny’n byw mewn cymunedau na ellir eu cyrraedd ar y trên. Felly, mae’r bws yn achubiaeth mewn gwirionedd. Gyda’r niferoedd uchaf o aelwydydd heb gar at eu defnydd i’w gweld hefyd ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, mae hwn yn amlwg yn fater allweddol i Gymoedd de Cymru. Fel y clywsom gan dystion yn un o sesiynau tystiolaeth pwyllgor yr economi, mae’r cyfuniad o dopograffi a chynllunio trefol a geir yn y Cymoedd yn gallu gwaethygu tagfeydd. I ddyfynnu tyst o Gyngor Rhondda Cynon Taf, a soniai am y terasau a geir yn y Cymoedd:
Mae’r strydoedd yn gul iawn. Nid oes lle... i drigolion barcio eu ceir, felly mae pobl yn parcio ar y stryd.
Gall hyn achosi tagfeydd difrifol ar lwybrau bysiau. Yn wir, mae’n broblem gyfarwydd yn fy etholaeth fy hun, ac rwy’n meddwl am lwybrau terasog Cwmaman, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl.
Gellir gwneud gwaith i fynd i’r afael â mannau lle y ceir problemau, megis y gwaith adfer mawr ei angen sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar yr A4059 yng Nghwm-bach ac Aberpennar. Nodaf hefyd sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i’n hystyriaethau mai un awdurdod priffyrdd yn unig a oedd wedi gwneud cais am y pwerau disgresiwn llawn a oedd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i drechu tagfeydd traffig ac wedi eu mabwysiadu. Hoffwn ofyn hyn: ym mha ffordd arall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn annog awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio’r cyfle hwn i chwilio am atebion lleol i broblemau lleol?
Mae ystyriaeth 8 hefyd yn bwysig iawn. Mae angen inni hyrwyddo ein rhwydwaith bysiau fel opsiwn cyfleus a fforddiadwy, ac yn anad dim, fel opsiwn dibynadwy ar gyfer teithio. Roeddwn yn hoff iawn o safon y gwasanaeth bws Stagecoach, eu gwasanaeth aur newydd, ac yn yr un modd, mae pethau fel TrawsCymru yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gyda dull cyfforddus o deithio sy’n hyrwyddo cyfleusterau fel Wi-Fi. Unwaith eto, mae sicrhau ein bod yn trechu tagfeydd yn allweddol i hyn fel bod bysiau’n ddewis cyntaf go iawn ac nid yn ddewis olaf.