Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 17 Hydref 2017.
Rydw i bob amser yn nerfus iawn pan fo Vikki yn codi i ofyn cwestiynau gan y bu hi’n ymarferydd yn ddiweddar, ond bydd Vikki yn gwybod mai un o ganlyniadau anfwriadol posibl cofrestru’n gynnar yw—a chyfeirir at hyn yn yr adroddiad—culhau'r cwricwlwm, fel bod yr holl wersi yn ymdrin â chael y plentyn hwnnw drwy arholiad. Nawr, peidiwch â fy nghamddeall i, mae arholiadau yn hanfodol bwysig, ond mae addysg yn ymwneud â mwy na hynny ac mae angen inni sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael ar gyfer ein holl blant sydd wedi'i ategu gan gyfraith y wlad hon. Rydym ni hefyd yn gwybod, a dywedwyd hyn gan Paul Davies, eto, mai canlyniad anfwriadol arall ac effaith cofrestru’n gynnar yw colli amser dysgu. Gall hynny fod yn broblem i ddisgyblion yn is i lawr yr ysgol, y mae eu hathrawon yn cael eu symud i gael plant yn barod ar gyfer set barhaus o arholiadau allanol, neu gall fod ar draul pynciau eraill ar wahân i Saesneg, Cymraeg neu fathemateg. Ac fel athrawes hanes, rwy'n siŵr y byddai Vikki wedi bod yn ymwybodol o hynny, bod rhai pynciau, efallai, yn cael eu hystyried yn llai pwysig a bod amser gwersi ar gyfer y pynciau hynny yn cael eu cwtogi. Unwaith eto, mae hynny'n ganlyniad anfwriadol i rai o'r arferion hyn, a gobeithio y bydd y newidiadau hyn heddiw yn eu lliniaru.
Rwyf wedi gofyn i Estyn edrych ar sut y mae ysgolion wedi mynd i’r afael â gweithredu'r TGAU newydd a sut y maent wedi ymdopi â'r newid hwnnw. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y newidiadau hynny i TGAU wedi bod yn un o'r prif bethau sydd wedi sbarduno cynnydd mor fawr mewn cofrestru’n gynnar a byddwn yn ystyried hynny. Byddwn yn parhau i ofyn i'n cynghorwyr herio ac adolygu, yn rhan o'r consortia, sef ein modd o wella ysgolion, i adolygu hyn pan fyddant yn cwrdd â'u hysgolion unigol ynghylch pa benderfyniadau a pha ddewisiadau y mae ysgolion yn eu gwneud o ran sut y maent yn gweithredu cofrestru’n gynnar. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad ar gefnogaeth ychwanegol benodol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog yn ddiweddarach.