Y Cap ar Gyflogau’r Sector Cyhoeddus

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:05, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu codiad cyflog. Mae angen codiad cyflog ar weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn dal i dalu’r pris am y bancwyr casino cyfalafol a aeth â ni i mewn i argyfwng economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen i San Steffan ddod â chyni i ben a chynyddu’r dyraniad cyllidebol i Gymru fel y gallwn roi’r codiad cyflog haeddiannol y dylai gweithwyr yng Nghymru ei gael?