Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 25 Hydref 2017.
Credaf fod yr holl dystiolaeth o unrhyw fan yn y byd yn werth ei hystyried yn rhan o’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynglŷn â pha rai o’r trethi hyn sy’n werth bwrw ymlaen â hwy. Mae llawer o enghreifftiau o drethi twristiaeth mewn mannau eraill. Mae angen inni ystyried beth yw eu manteision a lle y nodwyd anfanteision. Gellir ystyried y dystiolaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati y prynhawn yma yn rhan o’r ddadl ehangach honno.