2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2017.
3. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am sut y dyrennir costau diogelwch yn y Cynulliad? (OAQ51247)[W]
Mae diogelwch yn flaenoriaeth uchel i’r comisiwn. Rydym yn buddsoddi mewn ystod o fesurau diogelwch ar sail cyngor proffesiynol a natur newidiol y bygythiad diogelwch.
Diolch am yr ateb. Wrth i ni edrych ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o gostau diogelwch heddlu yn cael eu talu drwy gytundeb rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru. O gofio nad yw’r heddlu wedi ei ddatganoli, ac o gofio ein bod ni’n ddeddfwrfa sydd y tu fewn i’r gyfundrefn Brydeinig ar hyn o bryd ac nad senedd gwlad annibynnol mo Senedd Cymru, ac o gofio bod nifer o heriau rydym yn eu hwynebu yn deillio o derfysgaeth ryngwladol—ymosodiadau a bygythiadau o’r math yna—a ydy hi’n fwriad gan y comisiwn i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, a’r Swyddfa Gartref yn benodol, i weld oni ddylen nhw hefyd ysgwyddo rhan o’r baich am gadw’r lle yma, y Senedd hon, yn lle diogel i staff, Aelodau ac ymwelwyr?
Wel, y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau yr hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, sef diogelwch y cyhoedd a diogelwch y ddemocratiaeth sydd ar waith yma. Mae hynny’n wir pa un ai ydy heddlua wedi ei ddatganoli ai peidio. Yr arferiad, wrth gwrs, a’r hyn sy’n digwydd yw ein bod ni yn ysgwyddo y cyfrifoldeb ariannol o ariannu Heddlu De Cymru i ddarparu’r gwasanaeth yna i ni. Mae hynny, mae’n wir, yn bolisi cyffredin. Mae Tŷ’r Cyffredin yn gwneud yr un fath, a Senedd yr Alban hefyd yn gwneud yr un fath, ac yn ariannu’n ychwanegol y gofynion ychwanegol sydd gan senedd-dai o’r math yma.
Rwy’n derbyn y pwynt rydych chi wedi ei godi yn y Pwyllgor Cyllid, sef nad yw heddlua wedi ei ddatganoli, ac o bosibl bod angen edrych yn wahanol o safbwynt y Comisiwn yma a’r Senedd yma. Ond, ar hyn o bryd, y sefyllfa yw ein bod ni yn gweld hynny yn gyfrifoldeb arnom ni, a dyna’r sefyllfa yr ydym ni’n ei derbyn ar hyn o bryd.
Diolch, Llywydd.