1. Teyrngedau i Carl Sargeant

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:47 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 12:47, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wythnos yn ddiweddarach, mae'n dal yr un mor anodd i brosesu ein bod ni yma heddiw i dalu teyrnged i Carl. Cyfarfûm i hefyd â Carl am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl yn y Clwb Llafur yng Nghei Connah, neu 'Pencadlys Sargie', fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yn falch o gael ei ethol i'r lle hwn yn 2003 gan bobl Alun a Glannau Dyfrdwy. Dilynais i yn 2007, a daethom yn ffrindiau mawr yn gyflym, yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gogledd y rhan fwyaf o wythnosau.

Roedd Carl yn byw yng nghanol ei gymuned yng Nghei Connah. Nid anghofiodd ei wreiddiau, ac roedd yn falch o'i gefndir dosbarth gweithiol. Ar y diwrnod yr ymunodd â'r Cabinet, a minnau â'r Llywodraeth, gwnaethom rannu'r daith adref yn llawn cyffro am y dyfodol, a'r hyn yr oeddem ni'n credu y gallem ni ei gyflawni dros bobl Cymru, ac fe wnaeth Carl gyflawni cymaint. Aeth ef â'r mwy o ddeddfwriaeth drwyddo nag unrhyw Weinidog arall. Ychydig iawn o Filiau a Deddfau a geir na wnaeth Carl gyfrannu atynt. Fe wnaeth hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, digartrefedd a chaethwasiaeth fodern. Daeth yn Gennad Rhuban Gwyn, gan ddweud sut y bu'n dyst i gam-driniaeth ddomestig am y tro cyntaf yn ei gymdogaeth ar ôl i waith dur Shotton gau, pan welodd ei gymuned yn cael ei chwalu. Bob blwyddyn, cefnogodd ddioddefwyr cam-driniaeth ddomestig drwy gerdded 'milltir yn ei hesgidiau', er ei fod bob amser yn cael trafferth i gerdded yn y sodlau uchel.

Roedd Carl yn wleidydd anhygoel, yn fedrus iawn wrth negodi, ond nid o reidrwydd yn y dull y byddech yn ei ddisgwyl gan uwch Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddai mai'r ffordd o gael y gorau allan o bobl oedd darbwyllo a dylanwadu dros baned o de a custard creams, neu weithiau rhywbeth cryfach. Roedd yn trin pawb yr un peth, wrth roi cyngor i etholwr, wrth sgwrsio â'r teulu brenhinol yn agoriad y Cynulliad Cenedlaethol, wrth siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd wedi'u haddysgu yn Eton, neu'r dyn yn eistedd wrth ei ymyl yn y bar yn Mischief's. Roedd yn llawn hwyl ac yn ddireidus iawn ar adegau, ond roedd yn cymryd ei swyddogaeth fel cynrychiolydd etholedig yn ddifrifol iawn, ac roedd yn falch o fod yn eiriolwr ar ran ei etholwyr, yn enwedig y rhai hynny nad oedd ganddynt lais.

Yma yn y Cynulliad hwn, ac yn Llywodraeth Cymru, roedd yn trin pawb yn gyfartal. Roedd yn gofalu am bob un ohonom ac yn ein cefnogi, ei gydweithwyr yr Aelodau Cynulliad, nid yn unig yn ein grŵp ni, ond ar draws y pleidiau gwleidyddol. Roedd wrth ei fodd â'r staff yn ei swyddfa etholaeth a'i swyddfa breifat gweinidogol. Roedd y staff yn ein ffreutur a'r staff diogelwch ymysg ei ffefrynnau. Roedd ganddo le arbennig yn ei galon ar gyfer ei gynghorwyr arbenigol ac arbennig. Yn y Llywodraeth, roedd yn parchu ei swyddogion a'r amryfal dimau Bil y bu'n gweithio gyda nhw. Ond rwy'n credu mai ei ffefrynnau absoliwt oedd y gyrwyr gweinidogol. Gallen nhw ysgrifennu llyfr yn llawn straeon am yr oriau lawer a dreuliasant yn teithio o amgylch Cymru yn ystod y 10 mlynedd y bu Carl yn y Llywodraeth.

Roedd gan Carl synnwyr digrifwch drygionus ac roedd yn hoff iawn o wneud imi ac eraill chwerthin, yn aml ar yr adegau mwyaf amhriodol. Roedd yn adnabyddus am dynnu coes ac roedd bob amser yn ennill gwobr heclwr y flwyddyn. Roedd yn bleser i eistedd wrth ei ymyl yn y Cabinet ac yma yn y Siambr, ac un o swyddi pwysicaf Carl yma oedd sicrhau bod y drôr yr oeddem yn ei rhannu bob amser yn llawn losin. Un diwrnod, daeth â rhai newydd i mewn a dywedodd wrthyf i roi cynnig ar un, ond yn fy null arferol gafaelais mewn llond llaw, dim ond i ganfod wrth eu bwyta eu bod yn losin tsilis poeth. Prin y gallai guddio ei lawenydd o weld fy anesmwythder.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuodd ddilyn hobi newydd a phenderfynodd ddysgu ei hun i wneud gwaith crosio. Byddai'n eistedd ar y trên adref yn gwylio fideo YouTube i ddysgu ei hun, gyda bachyn crosio a gwlân yn ei ddwylo. Nid oedd hyn heb ei rwystredigaeth; aeth popeth i'r llawr sawl gwaith. Ond, fel popeth yr oedd yn ei ddechrau, roedd yn ei feistroli'n gyflym ac fe greodd rai eitemau hardd. Gallech chi weld yr olwg syfrdan ar wynebau rhai o'r cyd-deithwyr wrth wylio'r dyn mawr, cadarn hwn yn crosio boned babi bach, pinc.

Roedd Carl yn un o'r bobl fwyaf hael i mi gyfarfod erioed, yn enwedig â'i amser, ac roedd wrth ei fodd yn cymdeithasu gyda'i deulu a'i ffrindiau. Tu ôl i'r tu allan cadarn a hwyliog roedd yna enaid hardd, sensitif a bregus. Roedd bob amser yn dweud wrth bobl pa mor arbennig ac unigryw oedden nhw, oherwydd bod sut yr oedd pobl yn ei deimlo yn bwysig iddo. Roedd yn garedig wrth bobl, ac mae caredigrwydd at bobl yn etifeddiaeth aruthrol i'w gadael ar ôl.

Ef oedd fy nghyfaill a'm cymrawd pennaf. Roeddwn yn ei garu fel brawd, ac er mai ei enw anwes i mi oedd 'mam'—er wrth gwrs nad oeddwn yn ddigon hen i fod yn fam iddo—gwn ei fod yn fy ngharu innau fel chwaer. Roedd yn gofalu amdanaf i a'm merched fel estyniad o'i deulu ei hun ac mae'r ffaith nad yw e gyda ni bellach yn torri ein calonnau ni. Ond ni allwn ni gymharu ein colled ni â'r galar annisgrifiadwy y mae Bernie, Lucy a Jack yn ei deimlo. Yr oedd yn eu caru'n angerddol ac yr oedd mor falch ohonynt.

Iddyn nhw, rhieni Carl, a'i holl deulu, estynnwn ein cariad a'n cefnogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd anodd sydd i ddod. Carl, wna' i fyth dy anghofio di a byddaf yn gweld dy eisiau di'n ofnadwy. Gorffwysed mewn hedd, gymrawd.