2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2017.
11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Papur Gwyn ynghylch Bil arfaethedig y Gymraeg? OAQ51300
Daeth yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg i ben ar ddiwedd y mis diwethaf. Rydym ni nawr yn dadansoddi'r ymatebion ar hyn o bryd, ac fe fyddwn yn gwneud datganiad pellach yn y man.
Brif Weinidog, mae nifer o fudiadau wedi cysylltu gyda fi er mwyn datgan pryder am eich bwriad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, mae eich Llywodraeth chi wedi cyhuddo'r mudiadau iaith o fod yn rhy geidwadol. Mae grwpiau fel mentrau iaith a'r Mudiad Meithrin yn gwneud llawer i helpu'r iaith. Yn dilyn pryderon gan nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn y maes hwn, ydy hi'n amser i chi ailystyried y penderfyniad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg?
Rydym ni wedi ymgynghori ar y Bil ei hunan. Rydym ni nawr, wrth gwrs, yn mynd i edrych ar yr ymatebion sydd wedi dod mewn. Mae'n hollbwysig bod y materion hynny yn cael ystyriaeth fanwl. Nod y Llywodraeth yw gwella'r sefyllfa a chryfhau yr hawliau sydd ar gael gan siaradwyr er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac felly beth rydym ni'n ei wneud nawr yw ystyried beth mae mudiadau a chyrff eraill wedi dweud er mwyn gweld fel yn gwmws gallwn ni ddeall eu concerns nhw.
Dim ond ar y pwynt hwnnw o ystyriaeth, tybed a allwch chi ddweud wrthym, wrth archwilio'r achos o blaid corff newydd i ddisodli Comisiynydd y Gymraeg, a oes angen i'r Llywodraeth, fel y mae'n ei ddweud yn y Papur Gwyn, ystyried yn ofalus sut y gallai unrhyw staff gael eu heffeithio a pha un a fydd trosglwyddiadau staff. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf a yw swyddogion eisoes wedi cwmpasu cost debygol Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, gan barchu hawliau pensiwn a chyflogaeth sy'n newid, ac, yn benodol, y costau sy'n gysylltiedig â rheoli diogelu data unigolion yn unol â'r rheoliad newydd, a dod i'r casgliad bod y math hwnnw o newid mewn gwirionedd werth yr arian o gwbl?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i roi sicrwydd i'r staff, wrth gwrs, pan fo newid, ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod wedi TUPE'io drosodd, fel y mae'r ymadrodd yn ei nodi, a'n bod ni mewn sefyllfa lle gall pobl gael dealltwriaeth o'u sefyllfa cyn gynted â phosibl, ac, wrth gwrs, cael cysur cyn gynted â phosibl. Bydd unrhyw asesiad rheoleiddiol o'r Bil yn dilyn y broses arferol, a bydd Aelodau yn cael cyfle i graffu ar hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog.