– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol. Gwelliant 54 yw’r prif welliant yn y grŵp yma, ac rwy’n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliannau yn y grŵp. Darren Millar.
Diolch Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 54 ac yn dymuno siarad amdano ynghyd â gwelliant 61, a gyflwynwyd hefyd yn fy enw i, a gwneud rhai cyfeiriadau hefyd at welliannau 56, 57 a 58, sydd i gyd yn cael fy nghefnogaeth, yn enw Llyr Gruffydd.
Mae gwelliant 54 yn ceisio diwygio'r Bil fel y bydd angen i'r cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant y gall fod eu hangen o ganlyniad i'r anghenion hynny. Yn ystod Cyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth bod y system gymorth bresennol yn aml yn anwybyddu anghenion cludiant dysgwyr sydd angen cymorth. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y pwyllgor eu bod yn credu y dylid ystyried gofynion cludiant dysgwyr yn rhan o'r cynlluniau datblygu unigol.
Rhoddodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon enghraifft o fyfyriwr ag awtistiaeth a allai fod ag anawsterau gydag amserlenni bysiau ac ymdrin ag arian. Gall hyn olygu y byddai angen trefnu cludiant amgen ar gyfer disgyblion yn y mathau hynny o sefyllfaoedd. Mynegodd Diabetes UK bryderon tebyg, fel y gwnaeth y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Maen nhw'n credu bod y risg o gymhlethdodau difrifol sy'n deillio o rai cyflyrau yn golygu nad yw cludiant ysgol safonol efallai yn briodol ar gyfer pob unigolyn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hwy rhwng y cartref a'r ysgol.
Cadarnhaodd yr Ymgyrch Anaffylacsis y gallai pobl ifanc sy'n dioddef o anaffylacsis wynebu problemau teithio tebyg. Dywedasant y buont mewn cysylltiad â rhieni oedd wedi tynnu eu plant o'r ysgol oherwydd darpariaeth cludiant annigonol rhwng y cartref a'r ysgol. Mae elusennau epilepsi wedi mynegi pryderon tebyg hefyd.
Felly, mae gwelliant 54 yn ceisio ymateb i'r pryderon hynny drwy sicrhau bod y trefniadau cludiant ysgol sydd eu hangen o ganlyniad i anghenion dysgu unigol yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd yn y cynlluniau datblygu unigol. Bydd hyn yn sicrhau nad ôl-ystyriaeth mohonyn nhw gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol ond y cawn nhw eu hystyried yn briodol yn rhan o'r cynllun.
Yn ogystal, bydd cynnwys trefniadau cludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn caniatáu iddyn nhw fod yn destun dyfarniadau tribiwnlys os cyfyd anghytundeb. Bydd hyn yn fodd pellach o hoelio sylw y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i sicrhau nad anghofir am drefniadau cludiant. Does dim byd fel dyfarniad tribiwnlys posib i sicrhau bod trefniadau cludiant yn cael sylw priodol gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Nawr, rwy'n deall bod adolygiad o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hwn yn adolygiad i'w groesawu'n fawr gan fod pob un ohonom ni yn ein hetholaethau o bryd i'w gilydd wedi derbyn llond ein bagiau post o bryderon ynghylch y ffordd y caiff canllawiau weithiau eu dehongli gan awdurdodau lleol. Ond mae arnaf ofn, hyd yn oed gyda'r canllawiau o dan adolygiad, nad yw hynny'n ateb pryderon sylfaenol rhanddeiliaid yn yr un modd ag y bydd fy ngwelliant i yn ei wneud.
Dim ond drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gynlluniau datblygu unigol gynnwys gwybodaeth am gludiant, gan gynnwys i sefydliadau addysg bellach, a thrwy ei gwneud hi'n bosib cael dyfarniadau tribiwnlys yn eu cylch y bydd unrhyw obaith, rwy'n credu, o ymdrin â'r mater hwn unwaith ac am byth.
Gan symud ymlaen felly at welliant 61, mae hwn yn welliant sy'n ceisio sicrhau y rhoddir canllawiau i ysgolion a cholegau ynglŷn â darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol cyn paratoi cynlluniau datblygu unigol. Nawr, diben y gwelliant hwn yw sicrhau y caiff anghenion eu diwallu tra bod pobl yn aros, efallai, am asesiadau ffurfiol ar gyfer y cynllun datblygu unigol. Nawr, fe wyddom ni mai un o'r problemau gyda'r system bresennol yw, yn aml iawn, ei bod hi'n cymryd amser hir i bobl gael pecyn cymorth sy'n briodol i'w hanghenion. A hwyrach mai dyna fyddai'r sefyllfa o hyd, ar adegau, o ran ceisio dod i drefniadau ffurfiol wrth drafod gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol, awdurdodau addysg lleol ac eraill i drefnu pecyn cymorth ar gyfer unigolion, hyd yn oed o dan y system newydd.
Felly, bwriad gwelliant 61 yw mynd i'r afael â'r twll posib y gall pobl ddisgyn drwyddo wrth i'r trefniadau hynny gael eu gwneud, fel bod modd, i bob pwrpas, gwneud darpariaeth dros dro. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo y gallan nhw gefnogi gwelliant 54 a 61.
Dywedais yn gynharach yr hoffwn i ddweud ar goedd fy mod i'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn welliannau sy'n ceisio sicrhau bod ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn ystyried yn hytrach na dim ond penderfynu ar ba un a ddylid cynnig darpariaeth dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwelliannau eraill wedi eu cyflwyno y byddwn yn eu trafod yn y man, sydd hefyd yn ategu'r tri gwelliant hyn. Ond, yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw, credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cryfhau'r darpariaethau Cymraeg yn y darn hwn o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn gwireddu'r cyfleoedd y dylai fod ganddyn nhw i gael gwasanaethau gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl.
Mae gen i dri gwelliant yn y grŵp yma, sef gwelliannau 56, 57 a 58, ac rydw i'n diolch i Darren Millar am ei gefnogaeth ffurfiol ef i'r rheini.
Fel y mae'r Bil yn sefyll, wrth gwrs, y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol sy'n penderfynu a ddylai darpariaeth dysgu ychwanegol gael ei darparu i blentyn neu berson ifanc yn Gymraeg ai peidio, ac wedyn yn nodi hynny yn y cynllun datblygu unigol. Nawr, nid mater i'r awdurdodau i benderfynu arno fe ddylai hyn fod, yn fy marn i; mater o ddewis iaith yr unigolyn yw hwn. Felly, mi ddylai'r broses gychwyn gyda'r plentyn neu'r person ifanc yn penderfynu a ddylai darpariaeth gael ei gynnig iddyn nhw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd nifer o Aelodau, rydw i'n siŵr, wedi derbyn gohebiaeth yn cefnogi'r gwelliannau yma gan nifer o fudiadau, yn cynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Mudiad Meithrin, Cymdeithas yr Iaith, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg a Mudiadau Dathlu'r Gymraeg. Nawr, mi dderbyniodd y cyn-Weinidog, yng Nghyfnod 2, yr angen i edrych eto ar hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud hynny, ac mi fuaswn i'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yma.
I ddod at y mater o drafnidiaeth, rydw i'n cefnogi'n ffurfiol welliant 54. Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor, yng Nghyfnod 1 y Bil yma, alw ar i'r Llywodraeth ystyried sut y gellir cynnwys trefniadau ar gyfer darpariaeth cludiant i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y cynlluniau datblygu unigol. Fe syrthiodd gwelliant fel hwn yng Nghyfnod 2, ond er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi esbonio'i rhesymeg a'i bwriad yn ei llythyr diweddar i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf, rydw i o'r farn bod angen rhoi hyn ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau gweithredu ar hyn ac, fel y clywsom ni'n gynharach, nad yw'n rhyw fath o afterthought, ond ei fod yn cael y sylw a'r ystyriaeth y mae'r pwnc pwysig yma, sy'n cael cymaint o effaith ar fynediad plant ag anghenion dysgu ychwanegol i addysg, yn ei haeddu.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Efallai y caf i ddechrau gyda gwelliant 54 a gyflwynwyd gan Darren, sy'n ymdrechu, fel yr ydym ni wedi clywed, sicrhau bod gwybodaeth am drefniadau cludiant yn elfen ofynnol o bob CDU. Mae'r gwelliant yn cynnig dull anghymesur, drwy roi blaenoriaeth i gludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn hytrach na mathau eraill o gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae nod y gwelliant yn amhriodol, gan nad yw cludiant yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Nid oes gan lawer o ddysgwyr ag ADY unrhyw ofynion cludiant penodol, ac ni fyddai cynnwys anghenion cludiant yn y CDU yn arwain at ddyletswydd i sicrhau'r ddarpariaeth honno.
Gan ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn neu berson ifanc, efallai y bydd angen i'r CDU gynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth arall ar wahân i ddarpariaeth dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant. Ond nid yw hi'n briodol rhestru'r rhain i gyd, neu dim ond rhai ohonyn nhw, ar wyneb y Bil. Byddai rhestru gwybodaeth dim ond am gludiant yn anghymesur. Yn wir, rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn cytuno, nad oes gan y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol unrhyw anghenion cludiant penodol, felly mae gwneud trefniadau cludiant yn elfen ofynnol o'r cynllun yn anghymesur. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddai mewn gwirionedd unrhyw beth i'w ddweud, ac ni fyddai hyn yn ddim byd ond ymarfer ticio blychau arall a grëwyd yn y system addysg.
Yn ystod trafodiadau Cyfnod 2, ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd i ystyried ymhellach y sefyllfa gludiant o ran y system ADY newydd, gan nodi y byddai'n cyflwyno gwelliant pe na fyddai pwerau presennol yn ddigonol i roi canllawiau priodol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac yn y cod ADY. Ysgrifennais, fel y clywsom ni, at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf i amlinellu ein casgliadau yn dilyn yr ystyriaethau hyn. Ac yn y llythyr hwnnw, ymrwymais y Llywodraeth i ddau gam gweithredu penodol. Yn gyntaf, i wneud y diwygiadau angenrheidiol i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ac i gynnwys, yn rhan o'r cod ADY, arweiniad priodol ynglŷn ag ystyriaethau teithio mewn cynlluniau datblygu unigol, gan gynnwys y broses o'u cynhyrchu. Bydd canllawiau penodol ynglŷn â'r materion hyn yn helpu i sicrhau y cawn nhw ystyriaeth briodol gan bartneriaid cyflenwi mewn ffordd sy'n rhan o, ac nid ar wahân i, ystyriaethau a phrosesau ehangach y system ADY newydd. O dan ddarpariaethau'r Bil, bydd Aelodau yn cael cyfle i ddylanwadu ar gynnwys y Cod. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r cod yn ystod y flwyddyn nesaf a bydd y Cynulliad yn craffu arno. Bydd ymgynghori hefyd ynglŷn â'r diwygiadau a wneir i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ynglŷn ag ADY, oherwydd rwy'n cydnabod rhai o'r materion achos a amlygwyd gan Darren a Llyr.
Roedd yr ail ymrwymiad a wnes i yn ymwneud ag adolygiad ar ôl gweithredu'r Ddeddf. Rwyf eisiau cynnwys yr ystyriaeth benodol hon o faterion cludiant yn rhan o hynny. Bydd hyn yn fodd inni wirio sut mae elfennau cludiant y system newydd yn gweithio, ac ystyried unrhyw broblemau yn gyffredinol a phenderfynu bryd hynny ar unrhyw gamau pellach priodol. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw materion cludiant o fewn y system AAA bresennol a system ADY y dyfodol, ond nid yw rhoi'r gofyniad hwn ar wyneb y Bil yn briodol, ac rwyf felly yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 54.
Gan symud ymlaen, Llywydd, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58 o eiddo Llyr Gruffydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr am gyflwyno'r rheini heddiw. Credaf eu bod nhw'n cryfhau'r ffordd y mae'r Bil yn ymdrin â'r sefyllfa o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddai'r diwygiadau yn sicrhau bod dyletswydd barhaus i ystyried pa un a ddylid darparu yn y Gymraeg, ac na fyddai hynny'n gyfyngedig i'r cyfnod pan fydd y corff yn paratoi'r CDU. Yn benodol, byddai'r ddyletswydd i ystyried darpariaeth yn y Gymraeg yn parhau tra bod y corff yn cynnal CDU a phan fydd yr awdurdod lleol yn ailystyried CDU ysgol. Rydym ni wedi pendroni'n hir ynglŷn â gweithredu darpariaethau yn Gymraeg yn y Bil, ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn cynrychioli gwelliant defnyddiol, ac rwy'n annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58.
Rwyf hefyd yn hapus iawn i gefnogi gwelliant 61 gan Darren Millar. Mae is-adran 2 o adran 43 eisoes wedi'i ddrafftio gyda golwg ar sicrhau y diwellir anghenion plant a phobl ifanc mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol, tra bod y CDU yn cael ei baratoi. Elfen sylfaenol o'r polisi sy'n sail i'r Bil yw bod gweithredu'n digwydd ar yr adeg gynharaf bosib. Rydym ni eisiau symud oddi wrth yr hyn sydd weithiau yn digwydd yn y system gyfredol, pan fo'r plant a'r bobl ifanc yn gorfod aros am asesiadau statudol neu ddiagnosis cyn y caiff cymorth ei drefnu. Mae adran 43 wedi ei chynllunio i fynd i'r afael â hyn, a'n bwriad oedd, a'n bwriad o hyd, yw ategu'r canllawiau yn y cod beth bynnag sy'n digwydd. Felly, gan y bydd gwelliant 61 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynnwys canllawiau ar y mater hwn yn y Cod, rwy'n hapus iawn i'w gefnogi, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i wneud hynny hefyd.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb rhesymol iawn i'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno? Ac ar sail y sicrwydd a roddodd hi ynghylch y ddarpariaeth cludiant, ac o wybod pa mor angerddol mae hi'n teimlo bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn datrys rhai o'r problemau a gawsom ni yn y gorffennol o ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol, rwy'n gobeithio gallu tynnu gwelliant 54 yn ôl, ar sail y sicrwydd y bydd hwn yn fater sy'n cael sylw yn y cod ac y bydd yn cael sylw yn yr adolygiad ar ôl gweithredu'r Ddeddf.
Mae Llyr Gruffydd yn llygad ei le o ran y gwelliannau ynglŷn â'r Gymraeg. Dylai dewis y dysgwr fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ynghylch pa un a ddylid darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr roi mwy o ystyriaeth i ddewis y dysgwyr wrth edrych ar becynnau cymorth. Felly, rwy'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn derbyn ei welliannau yntau hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich ymateb i welliant 61 a gyflwynais ynglŷn â'r cyfnod dros dro hwnnw, os mynnwch chi, cyn cwblhau cynlluniau datblygu unigol, oherwydd problem sydd gennym ni gyda'r system AAA bresennol yw bod nifer o bobl ifanc a nifer o ddisgyblion wedi llithro drwy'r rhwyd a, gobeithio, bydd yn ceisio mynd i'r afael â hynny. Felly, rwy'n croesawu eich cefnogaeth, a hyderaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliannau.
Tynnwyd gwelliant 54 yn ôl. Ond mewn gwirionedd, mae wedi ei gynnig, felly, a oes unrhyw Aelod yn awyddus i weld pleidiais arno? Gan nad oes, ni fydd pleidlais arno.
Darren Millar, gwelliant 6.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Darren Millar, gwelliant 7.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhryw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Llyr Gruffydd, gwelliant 56.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 56? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 56.
Darren Millar, gwelliant 8.
Ydw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.