– Senedd Cymru am 6:40 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Y grŵp nesaf, felly, yw grŵp 13. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â darpariaeth Gymraeg. Gwelliant 64 yw'r prif welliant, ac rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, gydol y broses ddeddfu yma, rŷm ni wedi cael ein hatgoffa yn gyson o'r diffygion sydd yna o safbwynt gallu'r gweithlu yn y sector yma i gwrdd yn ddigonol â'r anghenion o safbwynt darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nawr, mae'n hen gŵyn, y bydd nifer o'r Aelodau fan hyn yn gyfarwydd â chael gwaith achos cyson ar hyn, sef diffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, methu cael diagnosis am wahanol gyflyrau drwy gyfrwng y Gymraeg, diffyg arbenigwyr, efallai, sy'n medru'r Gymraeg, a diffyg darparwyr gwasanaethau penodol hefyd er mwyn cwrdd â'r anghenion sydd wedi eu hadnabod. Yr un cwynion a'r un diffygion a oedd yn cael eu hadrodd i nifer ohonom ni bum, efallai 10 mlynedd yn ôl, ac nid yw hynny yn dderbyniol. Fy ngofid i yw os nad achubwn ar y cyfle i weithredu ar hyn yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol, byddwn ni'n dal i drafod yr un rhwystredigaethau a'r un problemau ymhen pum neu 10 mlynedd i ddod. Cyfunwch chi hynny, wrth gwrs, ag uchelgais y Llywodraeth o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae yna gyfle fan hyn i greu ysgogiad newydd, rhyw fath o fomentwm newydd, a fydd, o'r diwedd, gobeithio, yn wirioneddol yn mynd i'r afael â'r broblem yma.
Mae'r Llywodraeth wedi cryfhau'r Bil i'r perwyl yma, ac rwy'n cydnabod hynny. Trafodwyd rhai gwelliannau ynghynt ac, wrth gwrs, rŷm ni hefyd wedi dod i gytuno ar welliannau eraill yn ystod Cyfnod 2. Mae angen i Weinidogion adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg bob pum mlynedd, ac mae hynny'n gam positif eithriadol, er bod y posibilrwydd o orfod aros hyd at bum mlynedd ar ôl pasio'r Bil yma am yr adolygiad cyntaf yn oedi gormodol o bosib yn fy marn i hefyd. Mae'r ddyletswydd i gadw darpariaeth dysgu ychwanegol o dan adolygiad, yn cynnwys y Gymraeg yn adran 59, ond yn ddyletswydd i awdurdodau lleol.
Nawr, mae llawer o'r hyn sy'n greiddiol i lwyddiant y Bil yma—y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ehangach—yn ddibynnol ar rôl a darpariaeth cyrff iechyd. Mae fy ngwelliant i, gwelliant 64, felly yn galw ar i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn unol â'r rheoliadau y bydd y Llywodraeth yn eu creu, yn gallu asesu faint y galw tebygol a fydd yna am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, fel cam cyntaf, ac wedyn gymharu hynny â'r capasiti sydd ganddyn nhw i gwrdd â'r galw hwnnw, ac wedyn, wrth gwrs, fynd ymlaen i amlinellu camau y maen nhw am eu cymryd i ddarparu'r hyn sydd ei angen.
Mae'n rhaid inni greu sefyllfa lle mae'r cyrff perthnasol yn fwy rhagweithiol ar y mater yma neu, fel rwy'n dweud, byddwn ni yn ôl lle rŷm ni wedi bod flynyddoedd yn ôl ac yn dal i fod yn rhy aml o lawer o safbwynt argaeledd y ddarpariaeth, yn lle dweud y bydd y Llywodraeth yn asesu'r sefyllfa rhywbryd yn y pum mlynedd nesaf, gyda risg yn y cyfamser y bydd cenhedlaeth arall o blant yn colli hawl i dderbyn gwasanaethau a darpariaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Creu impetus i weithredu a bod yn rhagweithiol; dyna yw'r nod o safbwynt y gwelliant penodol yna.
Mae gwelliannau 65 a 66 yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau eirioli, ac y dylai gwasanaethau fel arfer fod ar gael yn Gymraeg ym mhob achos lle y bydd person yn gwneud cais am hynny. Mae hon yn hawl sylfaenol, ac nid yw'n afresymol disgwyl y gellir cwrdd â'r gofyniad yma trwy gydweithio a hyfforddi, oherwydd os yw'r ewyllys yno i sicrhau bod hynny'n digwydd, yna mae'r amser wedi dod, yn fy marn i, inni fynnu o hyn ymlaen fod hynny yn digwydd. Mae'r Aelodau Cynulliad, rwy'n gwybod, wedi derbyn gohebiaeth gan ystod o gyrff, a gwnes i gyfeirio atyn nhw yn gynharach, yn cynnwys UCAC, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith, CyDAG a Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, yn gofyn i chi gefnogi'r gwelliannau hyn, ac fe fyddwn innau hefyd yn gofyn ichi wneud hynny y prynhawn yma.
A gaf innau hefyd siarad i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd? Roedd gennym ni Fil a oedd yn eithaf byr, mewn gwirionedd, o ran dyheadau pawb am ddarpariaethau'r Gymraeg a oedd ynddo ar y cychwyn, ond drwy gydweithio â deiliad blaenorol y portffolio a'r Ysgrifennydd Cabinet presennol, credaf fod cyfres o welliannau yma a fydd yn cyfrannu'n sylweddol at sicrhau bod gennym system sy'n gadarn ac sydd â'r gallu i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Fel Llyr, rwyf innau wedi profi déjà vu ar sawl achlysur yn y Siambr hon pan ein bod wedi edrych ar annigonolrwydd cynllunio gweithlu, nid yn unig yn y gwasanaethau addysg, nid yn unig yn y gwasanaethau iechyd, ond mewn pob math o feysydd gwasanaeth cyhoeddus eraill. Mae angen inni ddatrys hyn unwaith ac am byth, ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn—gwelliant 64 yn sicr—yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny gyda'r gofyniad hwn i asesu'r galw tebygol ac yna i sicrhau bod y gallu yno i ddarparu gwasanaethau i ateb y galw hwnnw.
Credaf hefyd ei bod yn amlwg yn gwbl hanfodol bod pobl yn gallu cael gwasanaethau eiriolaeth yn eu hiaith o ddewis. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn ceisio mynegi dadleuon, mae'n anodd gwneud hynny mewn ail iaith. Credaf ei bod yn hollol iawn, bob amser, y dylai iaith o ddewis y dysgwr, a'r rhieni, fod yn rhan hollbwysig o'r penderfyniadau hyn, ac mae gwelliannau 65 a 66 yn ceisio cyflawni yr egwyddorion hynny. Felly, rwy'n annog bob aelod i gefnogi pob un o’r tri gwelliant yn y grŵp hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, rwy'n llwyr gefnogi'r bwriad i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ar lawr gwlad a sicrhau bod y Bil yn gwneud popeth posibl i ysgogi cynnydd yn hyn o beth, ac rwy'n gobeithio bod y camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd i gryfhau'r agweddau Cymraeg ar y Bil hwn yn dangos y pwysigrwydd yr wyf i a'r Llywodraeth yn ei roi i'r iaith yn y system newydd.
Fodd bynnag, yn fy marn i, ni fydd y gwelliannau hyn yn gwella'r Bil ymhellach. Mae gwelliannau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 eisoes wedi cwmpasu llawer o'r materion y mae gwelliannau Llyr Gruffydd yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Yn achos gwelliant 66, credaf hefyd bod perygl ei fod yn gwanhau'r dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol.
Mae gwelliant 64, drwy reoliadau, yn ceisio gwneud rhywbeth y mae cyfuniad o adrannau presennol ar wyneb y Bil eisoes yn darparu ar ei gyfer. Mae adran 59, fel yr ydym newydd ei drafod yn y grŵp blaenorol, yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gadw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad, ac mae'n gwneud cyfeiriad penodol at yr angen i ystyried digonolrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater os ydynt o'r farn nad yw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn y Gymraeg yn ddigonol.
Wrth adolygu'r trefniadau yn ei ardal, bydd yr awdurdod lleol yn rhoi sylw i'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gellid ei threfnu yn rhesymol gan eraill, gan gynnwys byrddau iechyd.
Mae adran 83, a fewnosodwyd yn ystod Cyfnod 2, yn gosod dyletswydd ychwanegol ar Weinidogion Cymru i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y Gymraeg bob pum mlynedd. Pe byddai gwelliant 64 yn cael ei basio, byddai'r sefyllfa gyfreithiol o ran y materion hyn yn aneglur a byddai'n tanseilio'r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli yn y Bil.
Rwy'n derbyn y pwynt, Llyr, fod pum mlynedd yn ymddangos fel amser hir i ffwrdd, ond mae rhai o'r gweithwyr proffesiynol y gwyddom fod prinder ohonynt i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, mewn gwirionedd, pe byddem yn dechrau eu hyfforddi heddiw, byddai'n cymryd o leiaf tair blynedd, os nad mwy, i sicrhau'r arbenigedd proffesiynol hwnnw. Felly, nid yw'n fater ei fod yn cael ei roi o'r neilltu. Y gwir yw, ar gyfer rhai o'r gweithwyr proffesiynol yr ydym yn sôn amdanynt, a'r hyfforddiant proffesiynol y mae'n ofynnol iddynt ei ddilyn, mewn gwirionedd, pe byddem yn dechrau heddiw, byddai'n tair, pedair neu bum mlynedd cyn y byddai'r person hwnnw yn canfod eu hunain yn y system hon.
Mae gwelliannau 65 a 66 Llyr Gruffydd yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu darparu yn y Gymraeg fel arfer pan ofynnir am hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor hon. Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod y gwelliannau yn angenrheidiol i gyflawni'r nod a gallent arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae awdurdodau lleol eisoes o dan rwymedigaethau o ganlyniad i safonau'r Gymraeg. Mae adran 84, a fewnosodwyd hefyd o ganlyniad i'r gwelliant Cyfnod 2, yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer drwy reoliadau i wneud yn absoliwt y gofynion cymwysedig presennol ar gyrff yn y Bil i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Os nad yw'r Llywodraeth yn fodlon â'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol sydd ar gael yn y Gymraeg, bydd yn gallu gwneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaeth benodol fod ar gael yn y Gymraeg, ac mae hwn yn bŵer cryf, sydd eisoes yn bodoli yn y Bil. Mae'r adrannau hyn, wrth weithio ar y cyd â'i gilydd, yn gwneud yr un peth ag y mae'n ymddangos bod gwelliant 64 yn ceisio ei wneud, felly byddwn yn dadlau nad oes angen gwelliant 64.
Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio hefyd yw y byddwn hefyd yn defnyddio'r cod i roi arweiniad a sicrhau bod eglurder o ran cyfrifoldeb. Byddai gwneud unrhyw beth ychwanegol yn y Bil yn achosi i'r gyfraith yn y maes hwn fod yn aneglur ac o bosibl yn anghyson. Yn wir, gallai'r defnydd o'r ymadrodd 'fel arfer' wanhau, mewn gwirionedd, y ddyletswydd ar awdurdodau lleol penodol y mae eisoes yn ofynnol iddynt ddarparu gwasanaeth eiriolaeth cwbl ddwyieithog o dan y drefn safonau. Ac am y rhesymau hynny, er fy mod yn deall bwriad yr Aelod wrth eu cyflwyno, a'i ddiffuantrwydd ac, yn wir, yr angen i wella perfformiad yn y maes hwn ar lawr gwlad ar gyfer pobl ifanc a phlant, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthwynebu gwelliannau 64, 65 a 66, gan eu bod yn ddiangen ac y gallent o bosibl wneud pethau'n waeth.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rydw i'n clywed llawer o'r hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, ac rydw i yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi cryfhau yn sylweddol sawl agwedd ar y maes yma. Fe fyddwn i yn dweud, wrth gwrs, roeddech chi'n cyfeirio at awdurdodau lleol a dyletswyddau'r awdurdodau lleol a'r pwyslais ar edrych ar y ddarpariaeth mewn perthynas â darparwyr eraill—pwynt digon teg—ond fe fuaswn i'n licio cryfhau hynny a rhoi pwyslais mwy penodol ar y byrddau iechyd, oherwydd nhw sydd yn ganolog i lawer o hyn, a darpariaethau iechyd, fel roeddwn i yn sôn amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, sydd yn greiddiol i lawer o'r problemau yma. Roeddech chi'n sôn am y bum mlynedd o oedi—hynny yw, efallai bod hynny yn ormodol, ond mae'n gorfod digwydd o fewn pum mlynedd—ac rydw i'n cydnabod mi fyddai rhai disgyblaethau lle mi fyddai angen nifer o flynyddoedd i hyfforddi'r gweithlu, ond yn eich geiriau chi'ch hunan, 'rhai disgyblaethau'. Hynny yw, mae yna rai eraill lle petai'r ewyllys yna, fe fyddai modd troi pethau o gwmpas lawer iawn ynghynt, ac felly fe fyddwn i yn gobeithio ein bod ni'n gweld y Bil yma, yn yr un modd ag ewyllys y Llywodraeth i symud yn gynt tuag at 1 miliwn o siaradwyr, fel cyfle i roi sbardun cryfach i'r ymdrech yna. Ac mewn ymateb i'r hyn a ddywedoch chi ynglŷn â gwelliant 66, os ydw i'n cofio'n iawn, ynglŷn â'r ffaith bod safonau'r Gymraeg yn cynnwys darpariaeth ar wasanaethau eirioli, mae hynny'n bwynt a wnaeth y Gweinidog—y cyn Weinidog—yng Nghyfnod 2 y Bil yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud yn bendant nad yw hynny'n gywir. Nid yw darpariaeth ar wasanaethau eirioli yn dod o dan y safonau iaith, felly mae angen cryfhau'r Bil i sicrhau'r hawl hwnnw. Cefnogwch y gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 64? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant.