1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i safleoedd treftadaeth a gynhelir gan Cadw ar gyfer pobl yn eu hardaloedd lleol? OAQ51325
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, yn ymdrechu i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu’n dda. Yn ogystal â’r pàs newydd gwell ar gyfer trigolion lleol, byddant yn cyflwyno cynlluniau newydd i hyrwyddo mynediad i'w henebion ymhellach, er mwyn atal prisiau mynediad rhag bod yn rhwystr i drigolion Cymru a chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Diolch yn fawr. A hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w swydd—Gweinidog dros ledaenu llawenydd o gwmpas y genedl. [Chwerthin.] A phwy well?
Yn gynharach eleni, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd yn gyfrifol, ynglŷn â chynllun Cadw ar gyfer trigolion lleol, a grybwyllwyd gennych yn awr. Roedd hynny oherwydd nad oedd trigolion Caerffili yn gallu cael mynediad i safleoedd Cadw am resymau'n ymwneud â ffiniau daearyddol, yn gysylltiedig â ffiniau hen cyngor dosbarth trefol Caerffili. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet ataf ar 28 Gorffennaf, gan ddweud y byddai cynllun aelodaeth gyfyngedig yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n negyddu'r angen am y ffiniau hynafol hyn. Ac roeddwn yn gobeithio, bellach, am newyddion ar weithrediad y cynllun, sef y cynllun y cyfeirioch ato yn awr, rwy’n cymryd. A fyddai ar gael bellach i drigolion yn fy etholaeth?
Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael yr holl wybodaeth ynglŷn â chynllun presennol Cadw ar gyfer pasys trigolion lleol, ac yn benodol ynglŷn â’r problemau yng Nghaerffili mewn perthynas â'r ffiniau lleol, fel y disgrifiwch, lle nad oedd rhai trigolion sy'n byw ger yr heneb yn gallu gwneud cais am bàs. Rwy’n falch o ddweud bod yr adolygiad hwn y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ato sef pàs ar gyfer trigolion lleol ledled Cymru wedi cael ei gyflawni dros yr haf, ac o ganlyniad i hynny, bydd cynnig aelodaeth newydd a mwy cynhwysol yn disodli'r pàs blaenorol, gan roi mynediad rheolaidd i un safle penodedig. Felly, mae'r materion ffiniau a grybwyllwyd gennych bellach yn cael eu cywiro, a bydd trefniadau newydd yn disodli'r pàs blaenorol, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Yn amlwg, os oes unrhyw anawsterau pellach, rwy'n siŵr y bydd gennych chi, ynghyd â fy nheulu fy hun yng Nghaernarfon sy'n byw o fewn waliau’r dref, gryn ddiddordeb yn yr hyn fydd gan y Gweinidog i’w ddweud.
Mae’n rhaid i minnau groesawu'r Gweinidog newydd i'w rôl newydd. Roeddwn am gyfeirio atoch fel y Gweinidog hwyl, ond efallai fod y Gweinidog dros lawenydd, fel y cawsoch eich disgrifio gan Hefin David, yn fwy addas. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol, Weinidog.
Fel y gwyddoch, o bosibl, mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, yn adnabyddus, wrth gwrs, am ei gastell trawiadol, a gynhelir gan Cadw. Ac mae trigolion y pentref yn cael ymweld â’r castell yn rhad ac am ddim gyda phàs trigolion, ac wedi cael gwneud hynny ers 1938, pan drosglwyddwyd perchnogaeth am y tro cyntaf, gan y degfed Dug Beaufort, rwy’n credu, i’r Comisiynydd Gweithfeydd, fel oedd hi bryd hynny.
Mae'r cynllun wedi gweithio'n dda iawn i'r y bobl sy'n gwybod ei fod yn bodoli, ond nid oedd llawer o newydd-ddyfodiaid i'r pentref yn ymwybodol ohono. Felly, yn ogystal â rhai o'r newidiadau rydych yn eu cynllunio fel rhan o'r adolygiad o'r pàs newydd gwell i drigolion, a allwch sicrhau hefyd fod pobl sy'n byw gerllaw safleoedd megis castell Rhaglan, a safleoedd Cadw eraill ledled Cymru, yn gwbl ymwybodol o’u hawliau o ran cefnogi ac ymweld â’r safleoedd hynny?
Wel, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod pawb sy'n gallu elwa o’r cynllun diwygiedig yn gallu gwneud hynny. Ac yn sicr, mae cysylltiad cryf rhwng hyn a'r datganiad a wneuthum ddoe, lle roedd y pwyslais ar Cadw yn parhau i fod yn rhan o’r Llywodraeth, ond gan ddod yn sefydliad hyd yn oed yn fwy masnachol nag ydyw eisoes. Ac fel yr awgrymais ddoe, mae Cadw wedi cynhyrchu refeniw sylweddol. Rwy'n sicr, ar ôl clywed y ddadl hon heddiw, y byddant yn awyddus i fynd ar drywydd eu marchnata uniongyrchol ar gyfer buddiolwyr y cynllun newydd cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Ac yn sicr, pe bai hynny o gymorth i’r Aelod dros Fynwy, buaswn yn fwy na pharod i ymweld â'i gastell yn Rhaglan i weld yr adeilad ardderchog a basiais sawl tro er nad wyf wedi ymweld ag ef yn ddiweddar, a buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â rhai o’r trigolion a allai fod yn bobl sy’n elwa o’r pàs hwn, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn sicrhau bod eu hawliau’n cael eu bodloni.