Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Nawr, rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi cadw'r cyfrifoldeb dros hyn. Efallai bod yna ddarn o wifren gopr yn ei chadw hi, o amgylch ei fferau neu rywbeth, sy'n gwrthod gadael iddi fynd. Fe fydd yn gwybod, oherwydd mae hi wedi llofnodi sawl llythyr ataf, faint o ohebiaeth rydym wedi'i chael dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wrth i ni ddod at ddiwedd y cyfnod hwn. Gallwn ysgrifennu ei llythyrau drosti bellach. Heb unrhyw amarch iddi, maent yn cynnwys yr un paragraffau, wedi'u trefnu fymryn yn wahanol, er mwyn torri ar y diflastod: 'Rydym mewn cysylltiad â BT'; 'Mae yna addewidion y bydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017'; 'Mae cytundeb y cwmni cyflymu yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2017, ac ni fyddwn yn talu rhagor ar ôl hynny.' Ac yna, y llinell glasurol hon: 'Rydym yn ei gwneud hi'n glir y bydd methiant i wneud hynny'n arwain at gosbau ariannol llym.' Hoffwn ddeall, pan fydd y Gweinidog yn ateb—Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—beth yw natur y cosbau hynny. Oherwydd nid wyf yn credu bod gan fy etholwyr ddiddordeb mewn cosbau—maent eisiau band eang. Maent eisiau i'r cytundeb hwn gael ei ddarparu ar eu cyfer, a'i ddarparu i wneud yr hyn a addawyd.
Ac i roi enghraifft, mae arnaf ofn, oherwydd mae'r mater hwn yn mynd gam ymhellach na BT yn unig a rhywfaint o'r agwedd braidd yn nawddoglyd, rwy'n credu, sydd gan rai pobl tuag at fusnesau mewn ardaloedd gwledig—rhyw syniad y dylech oddef gwasanaeth eilradd, yn syml oherwydd eich bod wedi dewis aros yn eich ardal—y llythyr y dyfynnais ohono yn awr yw un o'r llythyrau mwyaf diweddar a gefais gan y Gweinidog, ac roedd yn ymwneud â'r melinau llifio yng Nghenarth, a grybwyllwyd gan Leanne Wood yn y cwestiynau i Ken Skates yn gynharach. Unwaith eto, yr addewid oedd y buasent yn cyflwyno band eang cyflym iawn i'r melinau llifio hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr. Nawr, mae'r melinau llifio wedi buddsoddi sawl miliwn o bunnoedd mewn cyfarpar sy'n cael ei redeg yn rhyngwladol—yng Ngwlad Belg; dyna lle mae pencadlys y cyfarpar hwn. Os aiff rhywbeth o'i le gyda'r cyfarpar, maent yn mynd i lawr y lein i Wlad Belg er mwyn iddo gael ei drwsio. Gallem gael dadl ynglŷn ag a yw hynny'n beth da neu'n beth drwg, ond dyna beth y mae melinau llifio yn ei wneud; dyna beth y mae melinau llifio ledled y byd gorllewinol yn ei wneud. Ac nid wyf eisiau i'r felin lifio honno gael ei symud o Ddyffryn Teifi yn nes at Wlad Belg, neu'n nes at gysylltiad rhyngrwyd. Mae'n cyflogi 20 i 30 o bobl yn Nyffryn Teifi—Cymry Cymraeg yn ogystal. Mae'n fusnes teuluol, cynhenid sy'n eiddo i Gymry.
Dywed y llythyr gan y Gweinidog y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni hyn. Ond mae gennyf gopi o e-bost gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae arnaf ofn fod hwnnw'n wahanol iawn. Mae'r e-bost yn dweud, 'Nid wyf yn dweud bod y band eang yn ddigon da, ond efallai y dylai rheolwyr y felin lifio fod wedi gwirio hynny cyn gwario miliynau.' Dyna'r agwedd sy'n treiddio drwy'r broblem band eang yng nghefn gwlad Cymru, ac mae'n rhaid i ni oresgyn yr agwedd honno a rhoi sylw difrifol i ddarpariaeth band eang a hawl i fand eang.