Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Mae arnaf ofn na allaf i rannu'r bodlonrwydd sydd gyda rhai gyda'r cynnydd o dan y contract yma, neu yn gyffredinol gyda band llydan yng Nghymru. Fe soniodd Vikki Howells mai dim ond un o bob 25 o dai sydd heb fynediad at fand llydan, ond mae'n ymddangos i fi, drwy'r llythyrau rydw i'n eu cael, fod pentrefi cyfan yn llawn o'r un o'r 25 o dai yma, felly, yn yr ardal rydw i'n ei chynrychioli. Erbyn hyn, mae'r llythyrau ynglŷn â mynediad at broadband wedi mynd—yn fy post bag i ac yn fy e-byst i—heibio iechyd. Mae gen i fwy o lythyrau ynglŷn â band llydan nac iechyd, ac nid ydw i erioed wedi gweld hynny fel Aelod Cynulliad nac Aelod Seneddol. Mae'n amlwg fod mynediad at fand llydan wedi prysuro dros yr adeg yma gan bod y cytundeb presennol yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, a chan bod nifer yn cwyno nad ydynt wedi gweld y mynediad y maen nhw wedi bod yn ei ddisgwyl. Roedd yna wefan yn dangos i bobl pryd oedd y pentref i fod i'w gael, a phryd roedd eu tŷ nhw i fod yn rhan ohono fe. Tynnwyd yr arian cyhoeddusrwydd allan o'r wefan yna, felly bellach nid yw pobl yn gwybod pryd mae'r cyflawniad yn mynd i ddigwydd. Ac, erbyn hyn, rwy'n ofni fy mod i mewn sefyllfa i deimlo, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, nad wyf yn siŵr ein bod ni wedi cael y gwasanaeth y byddem ni wedi disgwyl ei gael am wariant o dros £150 miliwn gan Openreach a BT. Nid wyf fi'n meddwl eu bod nhw wedi perfformio yn llawn i'r contract. Rwy'n dod i siarad mewn ychydig ynglŷn â beth y dylem ni ei wneud ynghylch hynny.
I'r ardaloedd rydw i'n eu cynrychioli, mae mynediad digonol at fand llydan bellach yn hollol hanfodol. Rydych chi'n sôn yn gyffredinol am 10 Mbps, fel roedd Adam Price yn sôn amdano; erbyn hyn, mae disgwyliadau pobl o sut y mae'n nhw'n gallu ymdrin â'r economi leol wedi mynd y tu hwnt i hynny. Nid ydym ni eisiau gweld pobl yn gorfod symud o gefn gwlad, symud o orllewin Cymru, er mwyn bod yn nes at y farchnad. Pan fo gyda chi farchnad electronig, dylai fod yn bosib i ymwneud â'r farchnad yma unrhyw le yng Nghymru.
Fe soniodd Adam am y ffaith bod astudiaeth gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi canfod bod saith o'r 10 ward gyda'r band llydan mwyaf araf i'w cael yng Nghymru, a bod chwech ohonyn nhw yn etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ond mae'n waeth na hynny, achos pan edrychais i ar y ffigurau, roeddwn i'n synnu, a dweud y gwir, i weld y ffigurau a oedd gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Roedden nhw'n dweud bod y ffigurau yma yn wael. Er enghraifft: Trelech yng ngorllewin Caerfyrddin, 3.8 Mbps; Yscir, 4.2 Mbps; Llanfihangel Aberbythych, 4.2 Mbps.
Nawr, rydw i, dros yr haf diwethaf, wedi gwneud fy astudiaeth fy hunan, ym Meirion-Dwyfor, yng Ngheredigion, yn sir Benfro ac yn sir Gâr, o beth yw'r cyflymder y mae pobl yn ei gael go iawn yn eu tai nhw. Ac mae'r rheini mor isel â 0.2 Mbps; bydden nhw wrth eu boddau yn cael 4.1 Mbps neu 4.2 Mbps. Dydw i ddim yn gwybod o lle mae'r ffigurau yma yn dod—efallai o'r tŷ y drws nesaf i'r cabinet, neu rywbeth. Mae'r realiti o beth gewch chi 100 llath, neu fwy na 100 llath, i lawr y copper line o'r cabinet yng nghefn gwlad yn gwbl wahanol i'r ffigurau hyn. Mae taer angen edrych ar hynny gan y Llywodraeth.