Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chwestiwn. Gwn eich bod yn gweithio'n ddiwyd iawn bob dydd ar ran eich etholwyr, ac rwy’n siŵr y byddwch yn monitro'r sefyllfa hon, fel y byddaf innau'n ei wneud hefyd. Ar ôl i'r broses gynaeafu fynd rhagddi, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo’r rhywogaethau brodorol fel ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, coed criafol a choed cyll yn y goedwig i adfywio'n naturiol. Ond byddant hefyd yn monitro'r adfywio yn y goedwig cyn ystyried a oes angen ailblannu a byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau.