Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w chyfrifoldebau newydd a dymuno'n dda iddi gyda hwy?
A gaf fi adleisio'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud? Mae hwn yn safle mor bwysig yn ne Cymru. Mae'n boblogaidd iawn ynddo’i hun ond hefyd gan ei fod mor agos at Castell Coch. Credaf mai'r peth allweddol yw bod asesiad addas yn cael ei wneud ar ôl dwy neu dair blynedd a bod yr holl bobl sydd wedi bod bryderus ynglŷn â hyn, yr holl grwpiau cymunedol, yn cael y wybodaeth honno, fel y gallant ei gweld, ac yna, gall pob un ohonom fod yn sicr fod adfywio naturiol naill ai wedi gweithio, neu yn gweithio, neu fod angen ychwanegu at y broses, neu fod angen rhoi dull newydd ar waith.