Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch i'r Gweinidog am ei hatebion, yn enwedig ynglŷn â Phort Talbot, ac am nodi'r camau gweithredu rydych yn eu cymryd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â llygredd PM10 yn unig; mae'n ymwneud â llygredd PM2.5 hefyd. Ac o adnabod yr ardal, nid yw'n ymwneud â'r diwydiant a'r gwaith dur yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r draffordd ar y rhimyn cul hwnnw, a'r ffyrdd wrth ei hymyl. Felly, un o'r ffyrdd y gallwch edrych ar y mater hwn yw edrych ar gynllunio, ac efallai siarad â'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â rheoliadau cynllunio. Edrychwch ar effaith gronnol unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â llygredd aer, nid y prosiect unigol yn unig, oherwydd po fwyaf a welwn yn cael ei roi ar waith, sy'n creu mwy o lygredd, mae hynny'n ychwanegu at yr hyn sydd yno eisoes, ac nid yw'r hyn sydd yno eisoes yn lleihau. Felly, os gwelwch yn dda, edrychwch ar y mater fel y gallwn sicrhau ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn hytrach na chynnydd.