Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch am eich cwestiwn, Dai Rees. Rydych yn llygad eich lle fod angen i ni edrych ar waith trawsadrannol, trawslywodraethol mewn perthynas â hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, nid yn unig ar draws y Llywodraeth o ran cynllunio, ond hefyd o ran trafnidiaeth, iechyd a llywodraeth leol.