Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch, a diolch unwaith eto am eich llongyfarchiadau.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei ddiddordeb yn yr agwedd hon ar waith Llywodraeth Cymru? Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl gymorth i fawndiroedd, a chynefinoedd lled-naturiol, yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020, ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Mae gennym dystiolaeth gadarn o'n rhaglen fonitro fod ein dull integredig yn cael effaith gadarnhaol, ac yn gwella cyflwr a gwydnwch ein mawndiroedd. Mae ein cynllun rheoli tir, Glastir, yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r rhaglen hon, gyda dros 65 y cant o'n hardal darged eisoes o dan reolaeth Glastir. A chredaf fod ein harian o'r UE yn chwarae rhan bwysig yn ein cynorthwyo i wella cyflwr oddeutu 690 hectar o'n mawndiroedd pwysicaf.