Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer fawr o ddatblygiadau tai sylweddol, neu ddatblygiadau arfaethedig, yn ardal Taf Elái a Phontypridd. Un o'r problemau, wrth gwrs, sy'n codi yn ystod y broses honno yw capasiti gwasanaethau cyhoeddus lleol. Yn benodol, rwy'n meddwl am wasanaethau meddyg teulu. A fyddant yn gallu ymdopi â thai ychwanegol yn y cyswllt penodol hwnnw?
Nawr, ymddengys i mi mai un o'r pryderon rydym wedi'u cael—ac rwyf wedi clywed nifer o bractisau meddygon teulu yn mynegi hyn bellach—yw nad ydynt yn ymgyngoreion statudol yn y prosesau cynllunio hynny. Ymddengys i mi, gyda maint y datblygiadau tai sydd gennym, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnal adolygiad ynghylch pwy sy'n ymgyngoreion statudol, ac y dylid ystyried cynnwys cyrff fel practisau meddyg teulu lleol yn hynny o beth. Mae'n rhan uniongyrchol berthnasol o'r broses ac yn wybodaeth angenrheidiol iawn i'w chael, ond nid yw wedi'i chynnwys fel mater o drefn ar hyn o bryd.