Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch. Ydw, rwy'n cytuno—mae capasiti cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystyriaeth berthnasol a phwysig wrth ystyried rhinweddau cynllunio datblygiadau arfaethedig. Yn amlwg, y bwrdd iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth leol, felly buaswn yn disgwyl iddynt gymryd rhan wrth baratoi unrhyw gynlluniau datblygu. Maent yn gwybod pa gapasiti sydd ganddynt. Mae'n bwysig fod meddygfeydd yn bwydo'r wybodaeth honno i'r bwrdd iechyd lleol.
Rydym yn trafod ar hyn o bryd a ddylai'r byrddau iechyd fod yn ymgyngoreion statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio mawr.