Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ni fydd unrhyw doriad i'r cyllid mewn perthynas â dileu TB. Yn y rhaglen ar ei newydd wedd, mewn un rhan o'r rhaglen, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau oedd lleihau'r taliadau digolledu 50 y cant, er enghraifft, ond mae hynny'n fwy—. Rydym yn edrych ar—mae 10 y cant, rwy'n credu, o'r gyllideb i ddileu TB yn dod o'r UE. Felly, gallwn golli hynny yn y dyfodol. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gennym ddigon o arian. Ond roedd hwnnw'n un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf gan y pwyllgor yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, ond bydd yn rhaid i mi ddod o hyd iddo yn llinell wariant y gyllideb ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Felly, ni chredaf y bydd unrhyw effaith ar hynny o gwbl eleni.