1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB buchol Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51366
Diolch. Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda'i gilydd, yn cwmpasu ardaloedd TB uchel a chanolraddol. Yma, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu pwrpasol ar gyfer achosion parhaus o TB, sy'n cynnwys mesurau gyda'r nod o glirio heintiau. Cytunir ar gynlluniau gweithredu mewn ymgynghoriad â'r ffermwr, eu milfeddyg preifat, a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Er nad oes ateb hawdd na syml i ddileu TB mewn gwartheg, a yw hi'n cytuno mai un ffordd addawol ymlaen yw canolbwyntio rhagor ar eneteg? Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth wedi llunio mynegai genetig; fe'i hariennir gan ffermwyr y DU, wrth gwrs, i ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu ar eu rhan. Bydd hwn yn ein galluogi i dargedu mathau o wartheg sydd wedi datblygu gallu gwell i wrthsefyll TB. Felly, dylai hon fod yn elfen bwysig o strategaeth gyffredinol y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyfer dileu'r clefyd ofnadwy hwn.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf eich bod yn llygad eich lle: nid oes ateb syml i'w gael. Cefais gyfarfod y bore yma gyda swyddogion, gan gynnwys pobl sy'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes hwn. Fel rhan o'r gwaith o ddiweddaru'r rhaglen ddileu, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau yr addewais y byddwn yn eu cyflwyno oedd targed ar gyfer pan hoffwn fod yn rhydd rhag TB yn swyddogol yma yng Nghymru, ac mae honno'n elfen o'r trafodaethau rydym wedi'u cael. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â dod â llawer o fesurau pellach ynghyd, ond yn sicr ymchwil a datblygu. Yn y dyfodol, mae angen inni edrych ar bopeth a dysgu o ardaloedd eraill a gwledydd eraill hefyd.
Yn sicr, croesawaf y cynllun newydd i fynd i'r afael â TB buchol. Credaf fod pob un ohonom yn awyddus i weld y clefyd creulon hwn yn cael ei ddileu mewn bywyd gwyllt ac mewn gwartheg. Fy mhryder i yw na ddylid rhoi pwysau ychwanegol ar ffermwyr sydd, ers llawer gormod o amser, wedi dioddef o ganlyniad i effeithiau TB buchol.
Nawr, rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ac wedi sôn am y toriad sylweddol i'ch cyllideb. A gaf fi ofyn mewn perthynas â hynny, mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft, lle y ceir toriad sylweddol i'ch adran, sut y teimlwch y bydd hynny'n effeithio ar eich gallu i fynd i'r afael â TB buchol?
Ni fydd unrhyw doriad i'r cyllid mewn perthynas â dileu TB. Yn y rhaglen ar ei newydd wedd, mewn un rhan o'r rhaglen, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau oedd lleihau'r taliadau digolledu 50 y cant, er enghraifft, ond mae hynny'n fwy—. Rydym yn edrych ar—mae 10 y cant, rwy'n credu, o'r gyllideb i ddileu TB yn dod o'r UE. Felly, gallwn golli hynny yn y dyfodol. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gennym ddigon o arian. Ond roedd hwnnw'n un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf gan y pwyllgor yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, ond bydd yn rhaid i mi ddod o hyd iddo yn llinell wariant y gyllideb ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Felly, ni chredaf y bydd unrhyw effaith ar hynny o gwbl eleni.
Un o'r pethau mwyaf trist y mae dyn yn gallu ei wneud fel Aelod sy'n cynrychioli'r rhanbarth yma yw cael gohebiaeth gan ffermwyr sy'n dioddef o TB ar y fferm a gweld beth sy'n digwydd i'w hanifeiliaid nhw. Ces i un yn y pythefnos diwethaf yn sôn am y fuches yn cael ei heffeithio, a chwe buwch yn cael eu lladd ar y fferm, a'r buchod hynny ar fin dod â lloi hefyd, ac roedd hynny'n torri calon y ffermwraig a oedd yn gyfrifol am y gwartheg hynny.
Ond un o'r pethau a oedd hefyd yn peri tristwch iddi hi oedd y ffaith bod y profion wnaeth arwain at ladd y buchod hyn yn brofion amhenodol—hynny yw, inconclusive. Nawr, rwy'n gwybod bod rhaid inni gymryd camau, ond rwy'n gwybod hefyd fod yna brofion mwy cywir i'w cael ac yn cael eu defnyddio, er enghraifft, yng Ngogledd America. Pa waith ydych chi'n ei wneud i edrych nawr, o dan y cynllun newydd sydd gyda chi, a ydym ni nawr yn barod yng Nghymru, fel cenedl, i symud at wahanol brofion ar gyfer TB a rhai mwy cywir fel yr ŷm ni'n difa'r clefyd drwy'n gwlad ni?
Nid wyf yn bychanu'r gofid y mae cael achosion o TB yn ei beri i ffermwyr a'u teuluoedd, ac rwyf innau hefyd, yn ôl pob tebyg, wedi derbyn yr un ohebiaeth â'r Aelod. Cyfarfûm â'r prif swyddog milfeddygol y bore yma i drafod y mater, gan fod yr ohebiaeth yn dorcalonnus iawn, a byddaf yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y ffermwr fy hun.
Unwaith eto, yn y dyfodol, mae angen i ni edrych ar y profion gorau posibl, ac os ceir enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn amlwg buaswn yn awyddus i ystyried a ellid eu cyflwyno yng Nghymru fel rhan o'r mesurau pellach hynny y cyfeiriais atynt mewn perthynas ag adnewyddu'r rhaglen.
Nid yw Steffan Lewis yn y Siambr i ofyn cwestiwn 6 [OAQ51352], felly cwestiwn 7—Mark Isherwood.