Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Un o'r pethau mwyaf trist y mae dyn yn gallu ei wneud fel Aelod sy'n cynrychioli'r rhanbarth yma yw cael gohebiaeth gan ffermwyr sy'n dioddef o TB ar y fferm a gweld beth sy'n digwydd i'w hanifeiliaid nhw. Ces i un yn y pythefnos diwethaf yn sôn am y fuches yn cael ei heffeithio, a chwe buwch yn cael eu lladd ar y fferm, a'r buchod hynny ar fin dod â lloi hefyd, ac roedd hynny'n torri calon y ffermwraig a oedd yn gyfrifol am y gwartheg hynny.
Ond un o'r pethau a oedd hefyd yn peri tristwch iddi hi oedd y ffaith bod y profion wnaeth arwain at ladd y buchod hyn yn brofion amhenodol—hynny yw, inconclusive. Nawr, rwy'n gwybod bod rhaid inni gymryd camau, ond rwy'n gwybod hefyd fod yna brofion mwy cywir i'w cael ac yn cael eu defnyddio, er enghraifft, yng Ngogledd America. Pa waith ydych chi'n ei wneud i edrych nawr, o dan y cynllun newydd sydd gyda chi, a ydym ni nawr yn barod yng Nghymru, fel cenedl, i symud at wahanol brofion ar gyfer TB a rhai mwy cywir fel yr ŷm ni'n difa'r clefyd drwy'n gwlad ni?