Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch eto am eich llongyfarchiadau. Hoffwn nodi: y Gweinidog wyf fi, nid Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf am bechu fy nghyd-Aelod ar y cam cynnar hwn. Mae plant ac unigolion yn arbennig o agored i effeithiau llygredd aer, ac felly mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg wrth edrych ar sut rydym yn monitro'r sefyllfa. Ond yn sicr, credaf fod angen i ni, yn y dyfodol—. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n fater pwysig iawn, ac yn amlwg, mewn perthynas â chynllunio, mae'n rhan o gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet, felly rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ar hyn, wrth symud ymlaen.