Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:58, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau eich llongyfarch hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf; Weinidog—mae pobl sy'n byw yn fy rhanbarth yn gorfod ymdopi â pheth o'r llygredd aer gwaethaf yn y DU. Am ychydig ddyddiau yn ystod y mis hwn, bu'n rhaid i blant ysgol ym Margam ymdopi â lefelau PM10 ar ddwywaith y terfyn dyddiol diogel. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dyma un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac mae'n lladd 2,000 o bobl y flwyddyn. Wrth gwrs, y cyfrannwr mwyaf at ansawdd aer gwael yw trafnidiaeth, a gwneir hynny'n llawer gwaeth gan lefel y tagfeydd a welwn bellach ar ein ffyrdd. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cyfrannu at y tagfeydd hyn, a sut y gellir defnyddio'r system gynllunio i leihau tagfeydd ar y seilwaith ffyrdd?