Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae lefelau cyfartalog llygredd aer ledled Cymru, gan gynnwys yn ne-orllewin Cymru, wedi gwella dros y degawdau diwethaf, ond rydym yn dal i wynebu heriau sylweddol. Mae'n rhaid i ni wneud rhagor i wella ansawdd aer ym mhob ardal ac rwyf wedi cyflwyno dadl ar gyfer mis Rhagfyr i drafod cynlluniau ar gyfer gweithredu trawslywodraethol.