Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:54, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Yn ychwanegol at hynny, dengys data diweddar a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod dwy ardal yn fy rhanbarth, Port Talbot ac Abertawe, yn cael eu cydnabod ymhlith yr ardaloedd gwaethaf yn y DU o ran ansawdd aer a'u bod yn mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd. Gyda Healthy Air Cymru yn datgan bod angen i Lywodraeth Cymru arwain mewn perthynas â lleihau llygredd aer yn yr ardaloedd hyn, pa sicrwydd y gallwch ei roi eich bod yn cydnabod maint y broblem, ac a ydych yn cytuno bod yn rhaid i chi godi'r safon o ran eich gwaith cydweithredol gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer yn yr ardaloedd hyn?