Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch am eich cwestiwn. Mae hyn yn rhan o'n gwaith cynllunio senarios a grybwyllais yn fy ateb i Mark Reckless. Mae rhannau o hyn yn frawychus tu hwnt. Rydym yn sicrhau bod Llywodraeth y DU ar bob lefel yn hollol ymwybodol o'n barn y dylem barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau. Mae arnom angen y farchnad rydd honno sydd ar garreg ein drws, a byddwn bob amser yn gobeithio y bydd gennym berthynas gyda'r UE. Ond o'r trafodaethau a gefais yn y ffair aeaf ddydd Llun, mae pobl yn ofnus iawn ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch y ffordd y mae'r trafodaethau presennol i'w gweld yn mynd rhagddynt, ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn arbennig o bryderus y bydd Brexit yn arwain at brisiau bwyd uwch o lawer oni bai bod gennym gytundeb masnach rhagorol.