1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE? OAQ51360
Diolch. Mae gwahaniaethau mewn prisiau bwyd rhwng gwledydd neu flociau fel yr UE a phrisiau byd-eang yn cael eu hysgogi gan werthoedd arian, cyflenwad a galw, rheolau masnach a rheoliadau'r farchnad fewnol. Mae Comisiwn yr UE yn monitro prisiau bwyd Ewropeaidd ac mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn cynnal mynegai prisiau bwyd rhyngwladol ar gyfer nwyddau sylweddol.
A dengys y gwaith monitro hwnnw fod prisiau bwyd yn yr UE yn sylweddol uwch na'r tu allan i'r UE. Wedi i ni adael yr UE, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai mater i Lywodraeth y DU fydd pennu i ba raddau y byddwn yn defnyddio tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn erbyn mewnforion o'r tu allan i'r UE, a mater i'r Llywodraeth honno fydd penderfynu a ddylid eu defnyddio o gwbl neu negodi cytundebau masnach rydd â gwledydd penodol? Pe bai'r sefyllfa annhebygol yn codi lle byddai tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn bodoli rhwng y DU a'r UE, er y buasai hynny'n anodd iawn i rai sectorau yn yr economi amaethyddol, yn enwedig cig oen, a yw'n derbyn hefyd y buasai sectorau eraill, yn arbennig cig eidion a llaeth, yn elwa o bosibl o gyfleoedd sylweddol wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar fewnforion o wledydd fel Gweriniaeth Iwerddon?
Credaf fod Brexit—mae'n fater enfawr. Mae'n bygwth ein diwydiant o ddifrif a chredaf ei fod yn achosi llawer iawn o ansicrwydd. Yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw cael y trafodaethau masnach hynny a sicrhau cytundeb masnach. Fodd bynnag, rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU sut y credwn y dylai'r negodi a'r trafodaethau hyn fynd rhagddynt.
Credaf fod pawb yn derbyn—rwy'n siŵr, hyd yn oed ar yr ochr hon i'r tŷ—fod y sefyllfa wleidyddol sydd gennym ar hyn o bryd yn creu llawer o densiwn. Rydym yn cael y trafodaethau parhaus hynny. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau yn cael trafodaethau ynglŷn â masnach yn bennaf, a pha dariffau a gaiff eu gosod. Rydych yn llygad eich lle: rwy'n poeni'n fawr ynglŷn â'r sector cig oen, ac mae peth o'n gwaith cynllunio senario yn peri cryn bryder. Gwyddom hefyd fod Consortiwm Manwerthu Prydain wedi awgrymu, heb gytundeb masnach newydd, pe bai'r DU a'r UE yn gosod tariffau Sefydliad Masnach y Byd, y gallai cost gyfartalog bwyd a fewnforir gan fanwerthwyr gynyddu 22 y cant.
Yn wahanol i Mark Reckless, nid wyf yn edrych ymlaen at fyd o gyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion wedi'i fwydo â hormonau, felly gobeithiaf y gallwn barhau i fod â'r safonau bwyd uchel sydd gennym ar hyn o bryd.
Nid yw'r negeseuon a ddaw gan Awdurdod Porthladdoedd Prydain pe baem yn gadael yr undeb tollau yn optimistaidd iawn, oherwydd er bod gennym basbort rhydd ar nwyddau i ac o Brydain ar hyn o bryd, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddisymwth, gallai hynny roi terfyn ar bob trafodiad. A chan ein bod yn siarad am gynnyrch ffres, pam y buasai unrhyw un yn trafferthu mewnforio cynnyrch ffres os nad ydynt yn credu y gallant ei gael i'r farchnad mewn pryd? Tybed pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith gadael yr undeb tollau, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y bwyd rydym yn ei fewnforio ar hyn o bryd, yn enwedig cynnyrch ffres o'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch am eich cwestiwn. Mae hyn yn rhan o'n gwaith cynllunio senarios a grybwyllais yn fy ateb i Mark Reckless. Mae rhannau o hyn yn frawychus tu hwnt. Rydym yn sicrhau bod Llywodraeth y DU ar bob lefel yn hollol ymwybodol o'n barn y dylem barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau. Mae arnom angen y farchnad rydd honno sydd ar garreg ein drws, a byddwn bob amser yn gobeithio y bydd gennym berthynas gyda'r UE. Ond o'r trafodaethau a gefais yn y ffair aeaf ddydd Llun, mae pobl yn ofnus iawn ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch y ffordd y mae'r trafodaethau presennol i'w gweld yn mynd rhagddynt, ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn arbennig o bryderus y bydd Brexit yn arwain at brisiau bwyd uwch o lawer oni bai bod gennym gytundeb masnach rhagorol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.