Prisiau Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:14, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wahanol i Mark Reckless, nid wyf yn edrych ymlaen at fyd o gyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion wedi'i fwydo â hormonau, felly gobeithiaf y gallwn barhau i fod â'r safonau bwyd uchel sydd gennym ar hyn o bryd.

Nid yw'r negeseuon a ddaw gan Awdurdod Porthladdoedd Prydain pe baem yn gadael yr undeb tollau yn optimistaidd iawn, oherwydd er bod gennym basbort rhydd ar nwyddau i ac o Brydain ar hyn o bryd, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddisymwth, gallai hynny roi terfyn ar bob trafodiad. A chan ein bod yn siarad am gynnyrch ffres, pam y buasai unrhyw un yn trafferthu mewnforio cynnyrch ffres os nad ydynt yn credu y gallant ei gael i'r farchnad mewn pryd? Tybed pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith gadael yr undeb tollau, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y bwyd rydym yn ei fewnforio ar hyn o bryd, yn enwedig cynnyrch ffres o'r Undeb Ewropeaidd.