Dileu TB Buchol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:03, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Er nad oes ateb hawdd na syml i ddileu TB mewn gwartheg, a yw hi'n cytuno mai un ffordd addawol ymlaen yw canolbwyntio rhagor ar eneteg? Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth wedi llunio mynegai genetig; fe'i hariennir gan ffermwyr y DU, wrth gwrs, i ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu ar eu rhan. Bydd hwn yn ein galluogi i dargedu mathau o wartheg sydd wedi datblygu gallu gwell i wrthsefyll TB. Felly, dylai hon fod yn elfen bwysig o strategaeth gyffredinol y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyfer dileu'r clefyd ofnadwy hwn.