Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf eich bod yn llygad eich lle: nid oes ateb syml i'w gael. Cefais gyfarfod y bore yma gyda swyddogion, gan gynnwys pobl sy'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes hwn. Fel rhan o'r gwaith o ddiweddaru'r rhaglen ddileu, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau yr addewais y byddwn yn eu cyflwyno oedd targed ar gyfer pan hoffwn fod yn rhydd rhag TB yn swyddogol yma yng Nghymru, ac mae honno'n elfen o'r trafodaethau rydym wedi'u cael. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â dod â llawer o fesurau pellach ynghyd, ond yn sicr ymchwil a datblygu. Yn y dyfodol, mae angen inni edrych ar bopeth a dysgu o ardaloedd eraill a gwledydd eraill hefyd.