Prisiau Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:12, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A dengys y gwaith monitro hwnnw fod prisiau bwyd yn yr UE yn sylweddol uwch na'r tu allan i'r UE. Wedi i ni adael yr UE, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai mater i Lywodraeth y DU fydd pennu i ba raddau y byddwn yn defnyddio tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn erbyn mewnforion o'r tu allan i'r UE, a mater i'r Llywodraeth honno fydd penderfynu a ddylid eu defnyddio o gwbl neu negodi cytundebau masnach rydd â gwledydd penodol? Pe bai'r sefyllfa annhebygol yn codi lle byddai tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn bodoli rhwng y DU a'r UE, er y buasai hynny'n anodd iawn i rai sectorau yn yr economi amaethyddol, yn enwedig cig oen, a yw'n derbyn hefyd y buasai sectorau eraill, yn arbennig cig eidion a llaeth, yn elwa o bosibl o gyfleoedd sylweddol wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar fewnforion o wledydd fel Gweriniaeth Iwerddon?