Prisiau Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:13, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf fod Brexit—mae'n fater enfawr. Mae'n bygwth ein diwydiant o ddifrif a chredaf ei fod yn achosi llawer iawn o ansicrwydd. Yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw cael y trafodaethau masnach hynny a sicrhau cytundeb masnach. Fodd bynnag, rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU sut y credwn y dylai'r negodi a'r trafodaethau hyn fynd rhagddynt.

Credaf fod pawb yn derbyn—rwy'n siŵr, hyd yn oed ar yr ochr hon i'r tŷ—fod y sefyllfa wleidyddol sydd gennym ar hyn o bryd yn creu llawer o densiwn. Rydym yn cael y trafodaethau parhaus hynny. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau yn cael trafodaethau ynglŷn â masnach yn bennaf, a pha dariffau a gaiff eu gosod. Rydych yn llygad eich lle: rwy'n poeni'n fawr ynglŷn â'r sector cig oen, ac mae peth o'n gwaith cynllunio senario yn peri cryn bryder. Gwyddom hefyd fod Consortiwm Manwerthu Prydain wedi awgrymu, heb gytundeb masnach newydd, pe bai'r DU a'r UE yn gosod tariffau Sefydliad Masnach y Byd, y gallai cost gyfartalog bwyd a fewnforir gan fanwerthwyr gynyddu 22 y cant.