Dileu TB Buchol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:07, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn bychanu'r gofid y mae cael achosion o TB yn ei beri i ffermwyr a'u teuluoedd, ac rwyf innau hefyd, yn ôl pob tebyg, wedi derbyn yr un ohebiaeth â'r Aelod. Cyfarfûm â'r prif swyddog milfeddygol y bore yma i drafod y mater, gan fod yr ohebiaeth yn dorcalonnus iawn, a byddaf yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y ffermwr fy hun.

Unwaith eto, yn y dyfodol, mae angen i ni edrych ar y profion gorau posibl, ac os ceir enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn amlwg buaswn yn awyddus i ystyried a ellid eu cyflwyno yng Nghymru fel rhan o'r mesurau pellach hynny y cyfeiriais atynt mewn perthynas ag adnewyddu'r rhaglen.