Academi Lywodraeth Genedlaethol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:50, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth orau sy'n bosibl ar draws pob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Credaf fod hwnnw'n rhywbeth y dylai pawb fod eisiau buddsoddi ynddo mewn gwirionedd.