2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer academi lywodraeth genedlaethol? OAQ51380
Rydw i’n ystyried yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen ar hyn fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Mae Academi Wales yn darparu cymorth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd arwain, llywodraethu, gwella a newid, ac yn datblygu perthynas tymor hir gyda sefydliadau academaidd allweddol.
Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydw i'n credu, mae'r Athro Gerry Holtham wedi bod yn hyrwyddo'r syniad, ers rhai blynyddoedd, fod yna gyfle fan hyn i Gymru ddatblygu canolfan a fyddai'n rhagori'n fyd-eang, o bosib. Hynny yw, creu école nationale, yng ngeiriau'r Athro Holtham, ar gyfer arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector cyhoeddus.
Mae lot o bethau rydych chi'n gallu eu dweud am yr Athro Holtham, ond nid yw diffyg uchelgais yn un ohonyn nhw. Ond, pam lai? Pam na allwn ni, a dweud y gwir, nid yn unig ddiwallu ein hanghenion ein hunain trwy greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr a rheolwyr yn y sector cyhoeddus, ond hefyd creu canolfan a fydd yn ennill ei bri ar lefel fyd-eang?
Rydw i'n falch iawn i ddweud bod Academi Wales wedi bod yn datblygu llu o berthnasau gwahanol gyda sefydliadau ac academyddion mewn sefydliadau gwahanol ar draws Cymru a thu hwnt i'n ffiniau ni. Rydw i yn ymwybodol o safbwynt Gerry Holtham, ac nid wyf i'n anghytuno ag e. Rydw i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei bwysleisio ers rhai blynyddoedd. Rydw i'n hapus iawn i barhau â'r drafodaeth gyda chi i edrych ar beth a sut rŷm ni'n gallu symud ymlaen a chydweithio gydag Academi Wales i weld a yw hynny'n bosibl ar gyfer y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym eisiau arweinwyr o ansawdd uchel yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fy mod yn credu bod ysgol i fiwrocratiaid yn rhywbeth cwbl ddiangen. Mae gennym eisoes rai ysgolion arweinyddiaeth rhagorol yn ein prifysgolion o ansawdd uchel yma yng Nghymru, a chredaf y dylem fanteisio ar y cyfleoedd y maent yn eu cynnig. A gaf fi ofyn pa fath o gyllideb rydych wedi'i dyrannu ar gyfer y prosiect penodol hwn yn eich portffolio a gofyn i chi oni fuasai'n well gwario hwnnw ar fuddsoddi mewn ffyrdd eraill a dweud y gwir?
Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth orau sy'n bosibl ar draws pob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Credaf fod hwnnw'n rhywbeth y dylai pawb fod eisiau buddsoddi ynddo mewn gwirionedd.