Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym eisiau arweinwyr o ansawdd uchel yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fy mod yn credu bod ysgol i fiwrocratiaid yn rhywbeth cwbl ddiangen. Mae gennym eisoes rai ysgolion arweinyddiaeth rhagorol yn ein prifysgolion o ansawdd uchel yma yng Nghymru, a chredaf y dylem fanteisio ar y cyfleoedd y maent yn eu cynnig. A gaf fi ofyn pa fath o gyllideb rydych wedi'i dyrannu ar gyfer y prosiect penodol hwn yn eich portffolio a gofyn i chi oni fuasai'n well gwario hwnnw ar fuddsoddi mewn ffyrdd eraill a dweud y gwir?