Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydw i’n ystyried yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen ar hyn fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Mae Academi Wales yn darparu cymorth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd arwain, llywodraethu, gwella a newid, ac yn datblygu perthynas tymor hir gyda sefydliadau academaidd allweddol.